Tudalen:Madam Wen.djvu/87

Gwirwyd y dudalen hon

Nghymunod yn union deg, ac yntau'n siryf Môn, weldi."

Siryf Môn!" meddai Wil gyda rheg arall. ninnau fydd y rhai cyntaf fydd yn hongian tua Biwmaris yna."

Yr oedd arswyd "hongian" ym mhrif dre'r sir yn mynd yn fwy o hunllef beunydd ar Wil: hwyrach y cryfhai ei ofn fel y caledai ei galon ac fel y suddai yn fwy dwfn mewn anfadrwydd. A thrwy'r cwbl, yn yr arweinyddes y gosodai ei unig hyder i osgoi'r dynged honno. Ac os oedd hi am chwarae fel hyn â pheryglon, hwyrach â gelynion, yr oedd yn amser i rywun ymyrryd, ac nid oedd Wil yn ddiweddar yn fyr o bregethu athrawiaeth gwrthryfel ymysg ei gyd-ladron. Yr oedd wedi penderfynu bod eisiau cadw llygad gofalus ar yswain Cymunod yn anad neb.

Un diwrnod daeth cenadwri at Morys Williams oddi wrth y Siryf Sparrow, a baich y genadwri honno yn darogan drwg i Madam Wen ac i rai o breswylwyr direol Llanfihangel. Yr oedd y siryf wedi derbyn gorchymyn ar iddo fyned a llu o wŷr arfog i'r lle a ystyrrid yn guddfan y lladron. Gosodid arno i wneud pob ymdrech i ddal yr arweinwyr, dychryn eu dilynwyr, a llwyr lanhau yr ardal o'r giwaid. Yn anad dim, nid oeddynt i laesu dwylo nes dal yr arweinyddes beryglus ei hun os oedd hynny yng ngallu dyn, ac os nad oedd yr un drwg ei hunan wedi taflu ei fantell amddiffynnol drosti. Gan fod yr yswain yn ŵr o gyfrifoldeb yn y fro—ychwanegai'r siryf—hyderid y byddai ei gyfarwyddyd a'i gymorth i'w cael yn y gwaith o hela a dal y lladron.

Daeth y genadwri at Morys ar adeg anffodus i'r siryf. Daeth i ganol myfyrdodau yn y rhai yr oedd i Madam Wen le amlwg. Yr oedd yr yswain yn dechrau dyfod i synied amdani nad oedd hi mor ddiffaith a'r portread ohoni. Onid oedd profion fod ynddi liaws o rinweddau dymunol? Gresynai fod talentau mor werthfawr a'r eiddo hi yn cael eu camarfer. Daeth