Tudalen:Madam Wen.djvu/88

Gwirwyd y dudalen hon

o'r diwedd i goleddu syniad y byddai modd dylanwadu arni hi a'i chael i droi oddi wrth ei ffyrdd anhyfryd. Yn niniweidrwydd ei galon meddyliai mor ddymunol fyddai ei dwyn i gysylltiad â'i Einir ef. Ymha le y ceid y dylanwadau priodol mor helaeth ag ym mherson Einir?

I ganol meddyliau fel hyn y daeth neges y siryf fel ymwelydd digroeso. Yr un diwrnod aeth yr yswain i chwilio am Dwm Pen y Bont.

"A fuost ti ym mharciau Traffwll erioed, Twm?" gofynnodd iddo.

Do, ganwaith," atebodd yntau, gan ledu ei geg mewn gwên. "Mi fuom yn hanner byw yno, syr.

Araf oedd yr yswain i ddeall awgrymiad Twm, ond o'r diwedd deallodd. "Yn un o'r fintai a fuost ti? "

"Do, ystalwm." Nid oedd rhyw lawer er hynny ychwaith, a bod yn fanwl.

"A fyddi di yn mynd yno yrwan?

Wel nid yn aml. Petrusai Twm, gan ddyfalu pam y gofynnai'r yswain, a chan deimlo rhwng dau feddwl pa un a gadwai ei gyfrinach oddi wrtho ai peidio. Ni chredai y bradychai'r yswain ef pe gwyddai ei holl hanes, ond ar yr un pryd, os nad oedd angen cyfaddefiad, nid oedd waeth iddo beidio â chael gwybod.

"Adwaenost ti Madam Wen?"

"Neb yn well, pob parch iddi hi hefyd!" meddai Twm.

"Am hynny ni fedrwn gael neb gwell na thi, Twm," meddai'r yswain. "A ei di yno ar neges ati oddi wrthyf fi?"

Bron na chafodd Twm fraw o glywed hyn. Methai a dirnad beth a allai fod a wnelo'r yswain â'r ogof a'i phreswylydd. Os golygai hynny unrhyw ddrwg iddi hi, yr oedd ym mwriad Twm symud yn araf. Ni ddaeth ei atebiad lawn mor barod y tro hwn; yn wir, gofynnodd Morys ofyniad arall heb sylwi ar y distawrwydd.