"A wyt ti'n meddwl y medret ti ei gweled hi ei hunan heb ofyn i neb arall?"
Meddyliai Twm fod yn rhaid cael rhyw ben yn rhywle; a dyna pam yr atebodd, "Medrwn."
Ar hynny cafodd y neges yr oedd i'w chyflwyno, ac wrth ei gwrando yr oedd wyneb y dyn bach yn ddrych o syndod. Rhoddwyd siars arbennig arno nad oedd i sibrwd wrth neb oddi wrth bwy y deuai, na pha beth oedd ei neges; ac yn anad dim, nid oedd i ddychwelyd heb ei gweled hi os oedd hi o fewn y cyffiniau.
Gwyddai Twm am lwybrau'r coed eithin bob un. Wedi cyrraedd yno, aeth yn gyntaf at gaban y gwyddai amdano yng nghysgod craig. Yn hwnnw y treuliodd Madam Wen lawer o'i hamser yn ystod y blynyddoedd y bu yn arglwyddes y llyn. Ond nid oedd hi yno y tro hwn. Nid oedd Twm heb fod yn gwybod am y wyliadwriaeth fanwl a gedwid ar y parciau pan fyddai hi yno. Ganwaith y bu ef ei hun yn wyliwr yng nghyffiniau'r ogof.
Bwriadai Twm, os oedd modd, fynd i'r ogof heb i neb ei weld, ac am hynny cymerodd iddo hanner awr i ymlwybro ac ymlusgo ac ymguddio nes dyfod i enau'r agen ar gyfer y llyn. Ac wedi dyfod yno ni wyddai yn iawn pa gwrs i gymryd nesaf.
nesaf. Tra disgwyliai, gan ddyfalu, clywodd drwst yn y llwyni heb fod ymhell. Clustfeiniodd a deallodd fod rhywun yn dynesu. Meddai Twm gynysgaeth helaeth o reddf y coed; a dyma ei gyfle. Y gwylwyr oedd y rhai hyn. Heb oedi i ail-feddwl ymwthiodd yn eofn drwy'r agen ac aeth i mewn i'r ogof. Rhyw funud neu ddau wedi hynny safai Wil ac un o'i lanciau ar yr un llecyn y tu allan i'r ogof. Ond yr oedd Twm mewn diogelwch.
Safodd yn y gell allanol am amser hir, ond o'r diwedd chwibanodd yn ddistaw arwydd Madam Wen. Ni bu raid iddo ddisgwyl yn hir. Yn ôl ei harfer gyda'i dilynwyr, daeth allan gan ddal y lamp yn ei llaw, a disgwyl, y mae'n ddiau, weled un o'r bechgyn;