y byddwch chwi yn myned yno nos yfory, os na bydd rhyw ddrws arall yn agor?"
Na, paid â dweud hynny. Byddai hynny'n anniolchgar. Dywed wrtho fy mod yn mawr werth— fawrogi ei garedigrwydd. Ond gan i mi gael rhybudd fel hyn mewn pryd, y medraf ymdaro drosof fy hun heb ei osod ef mewn perygl. Ond," gwelodd Twm hi'n petruso am unwaith. Madam Wen, a fyddai fel rheol mor barod ac mor bendant—"Ond—os methaf a chael cuddfan ddiogel arall i hen ŵr o gâr i mi sydd yn aros yn y cylch yma, mi fydd yn dda gennyf gael lloches iddo ef." Yna ychwanegodd, fel pe wedi ail-feddwl, "Mae'n hen ŵr oedrannus ac yn drwm iawn ei glyw. Gall y bydd ofn arno."
Wrthi ei hun, wedi i'w hymwelydd ymadael, dywedodd Madam Wen ei fod yn arw o beth iddi yrru celwyddau at ŵr mor hynaws ag yswain Cymunod. Ond ei hesgus oedd y daethai i'w meddwl y gallai y byddai'n dda iddi wrth ystryw er mwyn ei hamddiffyn ei hun pan ddeuai'r awr. Ffug oedd stori'r hen ŵr, wedi ei ddyfeisio rhag ofn y byddai'n dda iddi wrth gyfle i ddianc i Gymunod pan fyddai drysau eraill yn cau.
Daeth y siryf i Gymunod yn brydlon yn ôl ei addewid, a chydag ef osgorddlu cryf at ddal lladron y llyn. Disgwyliai weled brwdfrydedd dros ei amcan yn yr ardal ormesedig ei hun, ac yn neilltuol felly yn yr yswain pwysig o dan gronglwyd yr hwn yr oedd wedi dyfod i aros. Ond er ei syndod ni chanfu fod yno'r cynnwrf lleiaf yng nghartref nac ym mynwes yr yswain.
Disgwyl yr oedd y siryf y byddai yno baratoadau lleol wedi eu gwneud. Disgwyliai glywed beth oedd rhifedi'r lladron, a pha fath le oedd eu cuddfan. Disgwyliai glywed mor dda fyddai gan breswylwyr heddychol y fro weled eu difa. Ond na, nid oedd yno yr un argoel o ddim o'r fath. Yn hytrach, braidd nad oedd yno ryw elfen o amheuaeth pa un a oedd y fath fintai ladronllyd mewn bod ai peidio. Y mae'n