Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/31

Gwirwyd y dudalen hon

yn supplio capel Saesneg Spitalfields. Achubodd y cyfle o gyfarfyddiad y pwyllgor dylanwadol hwnw i osod ger eu bron angen Cymru a'i Hysgolion Sabbothol am eu gwerslyfr dwyfol. Trwy ei ymdrechion ef a Mr. Joseph Tarn, ysgrifenydd cynorthwyol y pwyllgor, ymgasglasai yr aelodau ynghyd yn dra chryno. Y cadeirydd oedd yr Hybarch Matthew Wilks, ac yr oedd yno y Parch. J. Hughes, J. Townsend, Dr. Steinkopff, J. Owen, yr ysgrifenydd, Mr. J. Tarn, ac amryw foneddwyr lleygol eraill perthynol i'r pwyllgor. Wedi gorphen gydag achosion Cymdeithas y Traethodau, dygai Mr. Tarn achos ymweliad Mr. Charles gerbron. Yna cyfodai ein gwladgarwr mawr o'r Bala i fyny i egluro ei achos. Dangosai trwy liaws o ffeithiau angen gwaedawr ei wlad am Feiblau a Thestamentau. Fel yr hynotaf o'r holl ffeithiau hyny, adrodda hanes personol Mary Jones, a'i hymweliad âg ef. Cynyrchai hanes syml, toddiadol, y Gymraes fechan deimlad angerddol, oll-orchfygol, trwy yr holl bwyllgor o blaid cais yr apelydd gwresog am sefydliad Beibl-Gymdeithas i