Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/34

Gwirwyd y dudalen hon

iant Cymru, ac yn arbenig y sir fechan hon, Meirion, ydyw ei bod yn rhagori ar bob rhan arall o Brydain a'r byd yn y llafurus gariad a ddengys tuag at Lyfr Duw, a'r Gymdeithas sydd a'i hunig amcan i'w ledaenu dros holl wledydd y byd. Naturiol a theg ydyw ein zel hon o blaid y Feibl-Gymdeithas. Y Cymro byth-glodwiw o'r Bala, yn angerdd ei gariad at Gymru, oedd y prif achosydd o'i sefydliad. Cymraes ieuanc o Feirion, fel y gwelsom, oedd y prif swmbwl yn ei ysbryd yntau, yn ei ymgais gwladgarol hwnw. Penderfyniad cyntaf pwyllgor y Gymdeithas, wedi ei sefydliad yn 1804, oedd dwyn allan argraffiad o'r Beibl Cymraeg at wasanaeth Ysgolion Sabbothol Cymru. I'r Bala, i Mr. Charles, y danfonodd y llwyth cyntaf o'r argraffiad cyntaf hwnw yn 1806. Gymru! "dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di!"

—————————————