Tudalen:Megys Trwy Dan.djvu/10

Gwirwyd y dudalen hon

ACT II.

Cegin Mrs. John (tua 30 oed), un o aelodau parchus Moriah, a gwraig o Sir Gaer, Ty glan iawn, ac yn mwy newydd yr olwg na thy'r gweinidog. Mrs. Isaac (oedran, 35), aelod arall, ond o dype gwahanol; mwy o gorff nag o feddwl, yn llai glan a syber na Mrs. John, ac yn fwy rhydd ei thafod. Sieryd yn nhafodiaith Cwm Rhondda. Y ddwy yn yfed Te.

(D.S.—Seinir á yn y geiriau nàg, gàl, &c. fel yn y Seisnig care).

MRS. JOHN: "Wel, Mrs. Isaac, o chi ddim yn y Cwrdd Gwragedd neithiwr?

MRS. ISAAC: "Nàg o'n, wir, ferch, o'n ni'n meddwl dod, ond y'ch chi'n gwpod y gofid wy'n gàl gan y crwt melltigedig na, Sammy. Fe ddath sha thre nithwr yn llawn slwdge a baw, a'i ddillad yn rhacs gibbaders. Odd a wedi bod yn casglu mwa'r duon, a fe ddàth nol â llond dishgil dicon i neud tishan fach gwerth cinog a dima falla, a spoilio 'i suit newydd yn y fargen.

'Sam, Sam, the dirty man,
Wash his face in the frying pan.'

Dyna beth mà'r plant i gyd yn i' alw fa, a mà nhw'n eitha reit, ed."

MRS. JOHN: "Wel, yn wir, Mrs. Isaac, ma rhai bech- gyn yn neud lot o waith i'w mamau. Mae'r ddwy efylles wedi gwella o'r scarlet fever yn awr, ond i nhw?”

MRS. ISAAC : "O, oti'n—o'r diwedd. Gwyddoch chi beth, Mrs. John, mà nhw'n od. Fe ddethon i'r byd 'run pryd, torri 'i dannadd 'r un pryd, cal y scarlet fever a'r flu a'r mumps'r un pryd; os caiff un y pes, ma'r un arall yn siwr o follow suit. Os cwmpiff un yn y dŵr, ma'r un arall yn siwr o gwmpo miwn wrth drio helpu'i chwar. Ma nhw'n mofyn yr un sort o fwyd, 'r un sort o ddillad

MRS. JOHN (yn gwenu): Jealousy, Mrs. Isaac."