Mrs. ISAAC: "Ia, spo —. Gobitho, os tyfa nhw lan, nà fydda' nhw ddim yn mofyn yr un gwr; nid sport i gyd fydd hynny {yn gwenu)."
Mrs. JOHN (yn chwerthin): "Wel, yn wir, Mrs. Isaac, allai ddim peidio chwerthin tipyn er gwaetha pob peth, ond i chi'n cael trafferth rhyfedd gyda'r plant na."
Mrs. ISAAC: "Ytw, Mrs. John fach, ond dyna fe, rhaid i'r petha hyn fod, spo."
Mrs. JOHN: "Rhaid, mae'n debyg. 'Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul
Mrs. ISAAC: "Ia, a diolch i'r mawradd mai byr o ddyddia mae'r Gair yn weyd, a nid llawar o ddyddia. Ffansiwch mod i'n byw i oetran Methusalem! Mawradd annwl! Scarlet Fever, Pes, Sciatica, Flu, Rheumatic, a'r holl betha càs erill na, am dros naw mil o flynyddodd!"
Mrs. JOHN (yn chwerthin): "Na, na, Mrs. Isaac, nid cynddrwg a hynnny, hefyd. Rhywbeth dros naw cant bu Methuselah byw, a dyw'r Rheumatic a'r Pas a'r petha câs ereill na ddim yn para o hyd."
Mrs. ISAAC: "Eitha gwir, Mrs. John; mà'r cymyla yn cliro tipyn nawr ac yn y man, a diolch am amball i briotas, a thrip i Borthcawl a'r Barry. Ma'r pethe hyn yn help i ni fyw."
Mrs. JOHN: "Odyn, odyn, Mrs. Isaac. (Cnoc wrth y ddrws). Dewch i mewn. O, Mrs. James, chi sy na. Just mewn pryd i gal cwpaned o dê—fresh, my dear.
(Mrs. JAMES, gwraig barchus arall tua'r un oedran a Mrs. John, yn dod i fewn. Hithau, fel Mrs. Isaac, yn siarad iaith Cwm Rhondda).
Mrs. JAMES: "Hullo, Mrs. Isaacs, chi sy na ; mà'n ddà genni'ch gweld yn gallu dod màs am dro."
'Mrs. ISAAC: "Oti wir, ferch, mae'n nice fod menywod fel Mrs. John i gàl yn y byd ma. Mae wedi gofyn i fi lawar gwaith i ddod i gàl dishgled o dê, a dyma fi o'r diwadd."
Mrs. JAMES:"Mae'n change i chi, ar ol yr holl draffarth na ŷchi wedi gàl gita'r plant na ; y ddwy efylles na, 'rwyn feddwl. Mà nhw'n gwella nawr yn nêt, ond ŷ nhw."