Tudalen:Megys Trwy Dan.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

MRS. ISAACS: Otin, o'r diwadd ; nawr buo'n ni'n dwyn wilia am dàni nhw, ac am drafferthion 'r hen fvd ma." Mrs. John: ylrs. James, be'ch chi'n sefyll ar ych trâd, thyfwch chi ddim modfedd rhagor, mwy na finne. Dewch i gal cwpaned o dê gyda Mrs. Isaac a finne.

Mrs. JAMES (yn eistedd wrth ochr Mrs. Isaac): " Wel, yn wir, wy i wedi càl tê ; dod i wylia gair o' ni o bythti r cwrdd na nos lau nesa, i gàl Té a Choncert i helpu cwnni arian Mr. Williams y Gweinidog, ond fe allai i gymryd disligied o dê—ma disghlad o dê fel £5 note, wastod yn welcome, ond (yn edrych ar draws y bwrdd) beth am shwgir, amsar rhyfal ma? (yn cydio yn y basin llawn, yn agor ei llygaid, yna yn gwenu i Iygaid Mrs. Isaac), Trueni na fysa Twm chi yn dciicon mawr i fynd yn brentis mewn shop grocer, fe gelsa weld gwyrthiau'n dicwdd—wetyn."

Mrs. ISAAC: " Gwyrthia! Beth chi'n feddwl "

Mrs. JAMES (yn gwenu): " Wel cerwch i'r shop, a gofynwch am bown ne ddou o shwgir a petwar pown ar ddego datws, a ma'r Grocer yn dishgwl arno chi'n gwmws fel ta chi'n barod i fynd i Benbont ne Abergavenny, a fe gewch ddicon o shwgir i ddoti'n ych llycad. a dicon o datws i neud cino i wibetyn, ond (yn penelino Mrs. Isaac, ac yn cherthyn yn dawel) os bisa chi'n gallu mynd no amsar cino, yn enwedig amsar cino dy' Sul, mà'r nefodd wedi gofalu am y Grocer (yn gwenu) ma fà'n ddyn mor dda chi'n o-weld: fe sy'n catwni'n fyw, a mà na datw—a dicon o shwgir glân i neud pwdins a tishan beautiful"

Mrs. ISAAC (yn gwenu): "Dod lawr o'r nefoedd, efalla, Mrs. James, fel y manna na!"

Mrs. JAMES: " Dyna fe i'r dim. Mrs. Isaac."

Mrs. JOHN (yn gwenu ar Mrs. James, ac yn gosod ei bys ar ei gwefusau)

'Mrs. JAMES: Oh, honour bright, Mrs.John, no tales out of school my gel; dipyn bach o sport, dyna'i gyd ; a yn wir, diolch am"' ddishgled o dè felhyn heb yr hen shwgr brown na, nà nit brown, du (yn gwneud gwyneb sur, ac yn cydio meu'n teisen Welsh Cake), a thishan wedi 'i gneyd a rhwbath gwell na'r hen decel na."