17
Gwisg bob meddwl coeth a syniad,
Oll mewn sidan main o'r bron,
Ond y wisg roi di i'th gennad,
Digon llwyd yn aml yw hon.
Myn dy Sasiwn a'th Gymanfa,
Myn dy nefoedd, Gymru wen,
Ond bydd dirion, nac anghofia
Broffwyd, pan fo'r wyl ar ben.
{Pawb yn fud).
{Cnoc eto. Mrs. Isaac yn codi ac yn paratoi i fynd).
Mrs. John : Dewch i fewn." (Y gweinidog yn agor y drws, ac yn aros am eiliad).
Y GwEiNiDOG : " Peidiwch mynd, Mrs. Isaac. Yn wir nid pob gweinidog sydd yn gallu lladd cymaint o adar — nid adar gwyiltion, rwy'n feddwl (chwerthin), na'i lladd nhw, chwaith, o ran hynny, gyda'r un garreg ; ond yn wir, rwy'n lwcus. Mae'n dda genny'ch gweld gyda'ch gilydd, mor ddedwydd."
Mrs. Isaac : " Wy i wedi bod yma'n rhy hir (yn chwilio am ei hat).
Mr. Williams : Eisteddwch i lawr, Mrs. Isaac."
Mrs. Isaac : Nà, mae'n rhaid i mi fynd 'nawr, diolch yn fawr am y tê, Mrs. John."
Mrs. John : Dewch eto, ryw ddiwrnod arall, Mrs. Isaac."
Mrs. Isaac : Alright. Dwetydd dà i gyd." ( Yn myned allan).
Mrs. John : Eisteddwch, Mr. Wilhams, am funud."
Mr. Williaims : Na, yn wir, os gwelwch yn dda. Os eistedda i i lawr a dechreu siarad — y gwragedd sy'n cael y bai eu bod yn siarad gorrnod; ond pe baech yn y trên bore dydd Llun diweddaf gyda rhai o'r gweinidogion a'r Students, yn dychwelyd o'u teithiau — wel, gallech dybied fod y byd a'i wraig yn siarad 'r un pryd. A rwy'n ofni mod i wedi cael twtch o'r fever. Ar y ffordd i weld Mrs. Christopher wy i."