Tudalen:Megys Trwy Dan.djvu/23

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

23 annibyniaeth! H'm! Uchelgeisiol, rwyn gweld. Does dim arian gan eich tad, ynte?

JENKIN: Gweinidog, Syr, yw nhad.

MR. POWELL : H'm, na, does dim llawer o wragedd gweinidogion yn talu death duties, mae'n debyg.

JENKIN: Mae gweinidog cyfoethog, Syr, mor eith- riadol ag alarch du, ac ambell wraig gweinidog yn (yn tagu, dagrau yn ei lygaid). Maddeuwch i mi, Syr, cofio am fy mam, sydd wedi marw, a'm llethodd am funud. (Mr. Powell yn troi ei gefn, ac yn gwneud ymdrech i beidio dangos dim i Jenkin). Maddeuwch i mi, Syr, ond pe baech chi wedi digwydd gweld ac adnabod mam, ac yn gwybod helynt y Capel a'n cartref, gwn y byddech yn maddeu i mi. ,, MR. POWELL (yn troi i edrych ar Jenkin): ellwch chwi wneud ?

Beth JENKIN Darllen a siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg rwyf yn deall ychydig French, yn gwybod tipyn am Algebra, Trigonometry, a Mathematics. MR. POWELI. :

Aberth tad a mam, mae'n debyg ? JENKIN (yn wresog): Ie, Syr; aberth mawr ar gyflog fechan iawn.


MR. POWELL : Ddyn ieuanc, rwy'n edmygu eich ys- bryd; clywais ychydig o'r siarad wrth y drws; mae yn dda gennyf weld Cymro ieuanc penderfynol, ond a ydych wedi ystyried y peryglon a'r gofidiau sydd yng nglyn â chyfoeth ?

JENKIN (yn benderfynol): Er nad wyf ond 18 mlwydd oed, rwyf wedi gweld digon i'm suro am byth yn erbyn tlodi. Mae dyn da, duwiol, ond tlawd, yn aml iawn yn cael ei sarhau a'i ddirmygu gan ddynion cul, cybyddlyd, anwybodus, tra mae cyfoeth yn ennill parch ac anrhydedd. Mae llawer tlawd da yn gorfod aros gartref o flwyddyn i flwyddyn i chwysu ei esgyrn pan nad yw yn hanner iach, tra mae'r dyn ag arian ganddo yn gallu cael y feddyginiaeth oreu, y bwyd goreu, tŷ eang, ac iachus ac yn gallu mynd i Switzerland am dri mis yn y flwyddyn a-