Tudalen:Megys Trwy Dan.djvu/24

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

24

MR. POWELL (yn codi fys yw atal i siarad rhagor): Wel, Mr. Williams, mae'n amlwg eich bod wedi meddwl llawer am y peth hyn ?

JENKIN Mae y gorffennol, Mr. Powell, wedi gwneud i mi benderfynu (yn gadarn) na cha yr un rhwystr a allaf symud, i sefyll ar fy ffordd.

MR. POWELL (yn galw'r Chief Clerk):

'Johnson. CHIEF CLERK (yn codi, ac yn myned at Mr. Powell): Yes Sir.

MR. POWELL: This young man's name is Jenkin Williams; give him a month's trial. CHIEF CLERK :Yes Sir. (Yn myned ac yn eistedd wrth ei ddesc a'i gefn at Mr. Powell a Jenkin).

MR. POWELL. (wrth Jenkin) : Be here to-morrow morning by nine o'clock.' Sir.

JENKIN: Yes Sir. (Yn troi i fynd). Good morning,

MR. POWELL : Good morning. O, Mr. Willians, hanner mynud, oes gennych le i aros, lodging?

JENKIN: Oes, diolch.

MR. POWELL: Faint o arian sydd gennych? Dim gormod, efallai. (Yn rhoddi arian papur iddo.) Er mwyn eich mam.

JENKIN Diolch, syr. Bore da.

MR. POWELL: Bore da (yn dyner).

Yna cwyd yn araf. Saf yn edrych i'r drws am eiliad ar ol i Jenkin fyned allan; yna, a yn ol ac eistedda wrth y desc, ei law dan ei ben; edrycha i'r gwacder. Y mae vn cau y desc, cydia yn ei het, etc., a dywed: Johnson, I shall not go to Manchester, but I shan't be back this afternoon. Good morning.


JOHNSON : 'Good morning, Sir. LLEN.