Tudalen:Megys Trwy Dan.djvu/6

Gwirwyd y dudalen hon

JENKIN: "Sylwaist ti ar Miriam Jenkins yn dodi fewn? Yn ddiweddar, wrth gwrs ; ond yn llawer mwy diweddar nag arfer. Paham? Paham yn wir. Het newydd, wrth gwrs, a——"

MORFYDD: Eitha gwir, Jenkin bach, a dim ond siarad am het newydd buo nhw drwy'r prynhawn, a phan roedd Liza Philips yn darllen am Dduw yn caru'r byd, fel y rhoddodd ei unig-anedig Fab, dyma Miriam yn gwneud y dosbarth i gyd i chwerthin allan drwy ddweyd yn ddigon uchel i'r holl Ysgol ei chlywed, ' Deg swllt ar ucian, yn wir,am het fel hon? Dwy bunt, y merch i, bob dima.'

JENKIN: "A rhoi ceiniog yn y casgliad?

MORFYDD: "Ie, ond 'dyw hi ddim yn waeth na'r lleill"

JENKIN: "A bwyta sweets, a siarad pob dwli drwy'r prynhawn."

MORFYDD: le, siwr."

JENKIN: 'R un fath yn nosbarth y bechgyn 'na sy' gen i. Treio darllen ychydig a'u dysgu am lesu Grist, y Bugail Da, a Twmi Nicholas a Jack Prothero yn mynd â sylw'r class i gyd wrth siarad am y Boxing Match yn Llundain a'r Football Match yna rhwng y Rovers a'r Barbarians, a phan ddaeth amser i ofyn am adnoda dyma nhw un ar ol y llall yn gwaeddi nerth 'i ceg, ac mor ddifeddwl â phaganiaid: 'lesu a wylodd,' 'Duw, cariad yw,' 'Cofiwch gwraig Lot; yr un adnoda ers misoedd, ac ar ddiwedd yr Ysgol yn rhuthro allan fel lot o gwn hela."

MORFYDD: "Am hyn oedd nhad a thithau yn siarad wrth ddod allan o'r Ysgol?

JENKIN: "le, a dywedais wrtho yn straight niod i wedi cael mwy na digon ar y fath ddwli, a nad o'n i ddim yn mynd i boeni rhagor gyda nhw."

MORFYDD: "Dwedest ti hynny?"

JENKIN: "Do!"

MORFYDD: "Wyt ti ddim yn meddwl gwneud y fath