beth Fe dorri galon nhad, mae'n meddwl cymaint am yr Ysgol Sul."
JENKIN: Ysgol Sul (yn wawdlyd)! Ysgol clebran pob sothach, bwyta loshin, trafod busnes pobl ereill a darllen am efengyl tangnefedd gyda'r un anadl. Bah!"
MORFYDD: le, Jenkin, ond paid troi dy gefn ar y sefydliad sydd wedi gwneud y fath bethau ardderchog dros Gymru.
JENKIN: Morfydd! S' dim eisiau fy adgoffa am yr hyn mae'r Ysgol Sabothol wedi bod i Gymru. Mae nhad wedi gofalu na cha i byth anghofio Jones Llanddowror, Stephen Hughes, Charles o'r Bala, ac ereill o'r hen gewri, ond mae'r dwli sydd yn cael ei siarad gan blant Diaconiaid, a chan aelodau ereill o'r Eglwys, a'u hymddygiad anwaraidd yn Nhŷ Dduw, wedi fy llwyr ddiflasu. Ond gwyddost ti (yn aros eiliad, yna yn edrych i lygaid ei chwaer ac yn siarad yn fwy cadarn) y peth sydd wedi suro fy yspryd i'w waelodion yw ein sefllfa ni fel teulu mewn perthynas a'r Eglwys. Wyt ti'n gwybod? Rwyf fi yn gwybod fod llawer o'r aelodau yn edrych ar nhad bron fel rhyw gardotyn yn byw ar eu trugaredd hwy, a thithau a minnau fel math o gwn bychain yn casglu y briwsion o dan y bwrdd. Y nefoedd fawr! 40 mlwydd oed oedd fy mam annwyl yn marw, ie, marw, Morfydd (yn taro'r bwrdd ai ddwrn, ac yn siarad yn uwch) ti wyddost na fyddem wedi ein hamddifadu o'r fam oreu annwyd erioed pe bae wedi cael digon o fwyd da a llai o gecrach yn yr Eglwys; ti wyddost iddi fynd lawer pryd heb gino er mwyn i ni gael tamaid, a gwn fod llawer o'r aelodau yn gallu ffordio moethau bob dydd o'r wythnos. Roedd rhai o'r merched yn gallu fforddio dwy a thair Costume newydd y flwyddyn, tra roedd mam yn gorfod aros i lawr hyd hanner nos yn aml, a weithiau drwy gydol y nos, er mwyn cyweirio'n dillad. Mae'r bechgyn yma, llawer ohonynt yn gallu fforddio eu Motor Cycles, ac y mae dau o'r aelodau yn berchen eu Motor Cars, tra roedd nhad yn ei ddllad llwyd yn gorfod cerdded tair milldir y dydd o'r blaen drwy y glaw mawr i gladdu Mr. Jordan. A dyna Morgan Davies, gweinidog Beulah. Pwy fu yn ei ddilladu am flynyddoedd? Squire Powell, Penyrallt. A dyma Mr. Davies heddyw yn