Tudalen:Megys Trwy Dan.djvu/8

Gwirwyd y dudalen hon

ei fedd. A gwyddost ti beth sydd ar private records Dr. Thomas—Lack of nourishment Ie, gwelais y geiriau a'm llygaid fy hun. Ie, lack of nourishment. Marw o eisieu 'bwyd! y Gweinidog ffyddlon yr Efengyl! Arglwydd mawr!

MORFYDD: Ie, ond Jenkin annwyl, nid peth hawdd yw dysgu pobol i fod yn deilwng o'r Efengyl ym mhob dim, mae eisieu amynedd mawr."

JENKIN: Amynedd! Taw son, da ti. Mae rhai dynion yn canmol amynedd Job, ond canmol Job ddylid am ei ddiffyg amynedd tuag at ddynion coeg ddysgedig, yn siarad am Dduw yr hyn nad oedd iawn."

MORFYDD: "Ond maent yn mynd i wneud ymgais neilltuol un o'r dyddiau nesaf yma. Clywais eu bod yn bwriadu cael Tê a Choncert, a'r elw i gyd i fynd at y weinidogaeth."

JENKIN: Ie, Te a Choncert, ac efallai dilyn esiamipl Eglwys Porthcanol Clywais fod y Curate yno yn gwerthu ticedi Whist Drive, a Soiree, a Dawns, i helpu'r achos da! Morfydd, wyt ti'n taflu glo ar y tân, yn lle ei ddiffodd. Tê a Choncert! le, a nhad a ni'n dau i fynd i ofyn help pob Twmi, Dick, a Harry, o bob enwad, a dim enwad o gwbl. A maent yn credu yr â i yn Bregethwr! Na wnaf, byth, bythoedd. "y Diaw—" (Morfydd yn edrych arno mewn arswyd; Jenkin yn tynnu ei anadl yn gyflym, yna yn siarad yn gryfach fyth). "The fault, dear Brutus, is not in our stars, but in ourselves, that we are underlings" Mae cystal pen gennyf ag sydd gan fab y Doctor, ac efallai gwell. a diolch i nhad a mam,sy' wedi aberthu cymaint er mwyn i mi gael mynd i'r Intermediate, rwy'n ddigon o scholar yn awr i gychwyn dringo'r ysgol sydd a'i phen yn cyffwrdd â chyfoeth ac annibyniaeth. Morfydd, rwy'n mynd i wneud arian, fel y gallaf fod yn annibynnol o geiniogau Twm y Labrwr a chwech cheiniogau y Grocer cybyddlyd a chintach dragwyddol Robert Harris. Mae Mr. John Griffiths, Llwynbedw. wedi addaw danfon i Fyrmingham at hen gyfaill iddo, Broker yn y ddinas. Gobeithio cyn pen llawer iawn o flynyddau, y gallaf ddanfon rhywbeth yn ol i dy helpu di a nhad "Hitch your wagon to the star." Rwyn mynd i fyny i'r llofft i ymofyn y bag yna.