Tor y newydd goreu gelli i nhad pan ddaw gartre o'r Cyrdde (yn edrych drwy'r ffenestr), O dyma fe'n dod. (Jenkin yn myned i fyny ir llofft. Y gweinidog yn dod i fewn, ai got fawr lwyd am dano).
MORFYDD: Nhad annwyl, mae'n dda genny'ch gweld. Beth ddigwyddodd? Coll'r trên?"
GWEINIDOG: le, merch i. Llefen! Beth sy'n bod?"
MORFYDD: Nhad annwyl, mae Jenkin wedi bod yn dweyd pethau cryf iawn ; rhegi, nhad (yn wylo).
GWEINIDOG: Lle mae e?"
MORFYDD: I fyny ar y lloft yn paco'r bag " (siarad yn araf ac yn wylofus).
GWEINIDOG (yn arwyddo syndod a gofid).
MORFYDD: Dyma fe'n dod."
Jenkin yn dod i fewn, yn sefyll yn sydyn, y tad ar mab yn sefyll wyneb yn wyneb am eiliad neu ddwy),
GWEINIDOG (bron methu siarad gan dristiwch): Wel, Jenkin bach, wyt ti'n penderfynu'n gadael ni?"
JENKIN (yn dyner ond yn benderfynol): Ydw,nhad, allai ddim aros rhagor i fod yn dreth arnoch chi. (Y ddau yn edrych i wyneb eu gilydd am funud, yna yn edrych tua'r llawr. Mae Morfydd ai phen ar y bwrdd yn wylo. Jenkin yn troi yn sydyn tua'r drws, yna yn ei agor ac yn troi i edrych ar ei dad a'i chwaer am eiliad, yna gydag ochenaid yn myned allan yn syth, Y gweinidogy yn caêl ei drechu gan ofid, yn eistedd yn drwm i lawr ger y bwrdd, ac yn ochain. Yna, ymhen munud neu ddwy yn codi ar ei draed, yn cerdded yn araf i gyfeiriad y drws', yn ei agor, ac yn edrych allan i'r gwagder am funud, ac yna yn dweyd yn araf iawn), O fy mab, Absalom ; fy mab, fy mab Absalom."
LLEN.