IFAN:
O'r borfa ar y cloddiau a'r twmpathau ar y gors
fe gliriwn y rhent ag ŵyn-tac ac ebolion,
—pob llwdn fel ebol, a phob poni fel march
erbyn y Gwanwyn . . .
RHYS:
Brwyn y tir llaith sy'n melynu'r hufen;
fe allwn gywiro menyn a magu lloi . . .
ELEN:
Eirin per ac afalau
ar gloddiau'r ydlan a'r clos, llus-duon-bach,
mwyar, llugaeron, afan a syfi, ddigonedd. . .
SAL:
Pysgod Nant-las i swper, brithyllod a samwn,
llyswennod wrth y llath o rabanau'r gors. . .
IFAN:
Mawn a choed-tân o'r tir ar eu torri. . .
RHYS:
Y ffin yn ddiddos â pherth a phum weiren—
un weiren bigog a'r perthi o ddrain gwynion—
cloddiau talïaidd a'r llidiardau ar byst deri yn hongian . . .
IFAN:
Pob cae'n ddidrafael o'r clos,
fe gwyd un gaseg y dom o'r domen,
a daw'r llwythi ar y gwastad i'r ydlan. . .
ELEN:
Yr haul ar ffenestri'r ffrynt trwy'r prynhawn,
a'r prisgau wrth gefn-tŷ yn torri'r gwynt rhew. . .
IFAN (â gwên):
A'r angau trugarog yn torri'r gwynt rhew!
Haws taro bargen â'r merched na'r hen-ŵr;
mae'n dda'i fod e wedi . . .
RHYS:
'Tae e byw
ni fyddai dim sôn am na rhent na les;
ond mae blys ar y merched glerdingo i'r Dre,—
mae tân tan eu carnau ar hast bod yn ladis . . .
Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/11
Prawfddarllenwyd y dudalen hon