MARI:
pori blaen-darddiant yr egin a'r blagur
ac ni ddaw tywysennau na ffrwyth i gynhaeaf.
MARI a SHANI:
Ystod a seldrem ac ysgub a stacan
o egin ir, a'n llwydrew'n y fedel yn medi'r gwanwyn,
yn medi plant.
GŴR:
Medi plant am i gnwd fy had
lanw ydlan eu tadau â helmydd o us.
Llawer doe, llawer echdoe y bu'n hil ni'n braenaru
i'w hepil gynaeafu trwy fory a thrennydd a thradwy;
pob tad wrth y gaib i roi ffust yn llaw'r mab;
pob tad yn etifedd ei dadau, pob etifedd yn dad disgynyddion
i greu Glangors-fach bob yn gŵys a grwn;
i greu treftadaeth, a'i gofal.
E fûm innau'n etifedd fy nhadau, yn blentyn,
a 'nhad yn f'anwylo, 'nhadcu yn f'addoli,—
ond myfi oedd maen-clo a sail yr adeilad,
ysgub eu dawn ac egin eu hyder?
Cerais innau fy mhlant fel y carwyd fi gan fy nhadau,—
cyn eu geni fe'u cerais, a ffoli ar f'etifeddion.
Ond oedd Glangors-fach fy nhadau yn faich yn fy mherfedd
i esgor arno, fel y baich yn y bru a'u dug,
a'r gobaith yng nghroth f'ymysgaroedd yn wewyr?
Pob doe a phob echdoe yn crynhoi yn eu geni,
a'm baich yn ysgafnu i ysgwyddau fy mhlant.
Myfi, etifedd fy nhadau yn dad etifeddion!
E feddwais ar garu fy mhlant.
MARI:
Geni a magu etifeddion, a'u caru, heb adnabod eich plant
SHANI:
heb eu harddel, na chanfod y cnewyllyn ni pherthyn i'r gors:
mynnech ni'n eilltion yng nghlwm wrth y gors
a'n troi ni'n alltud o Langors-fach.
MARI:
Nid y ddwy hen-ferch a boerodd i fedd agored eu tad
a ddihangodd i'r Dre, ond darn o ddau blentyn,—
y plant a gamodd eu henaid â dagrau digllonedd.
Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/13
Prawfddarllenwyd y dudalen hon