SHANI:
'Roedd clai Glangors-fach wedi tasgu i'ch llygaid
na welsoch roi'ch plant yn eich bedd cyn ei agor,
a'n gadael ni wrtho, ar ôl yn blysg gweigion.
Etifeddion!
MARI:
Etifeddion y mwrdwr yng Nglangors-fach ..
GŴR:
Llofruddion fy mhlentyn, fy Nglangors-fach,
llofruddion treftadaeth wrth linyn y bogail;
lladdasoch fy mhlentyn â'ch llygredd,
a phlannu estroniaid yn nhir fy nhadau.
Rhaid difa plant estron o Langors-fach.
MARI a SHANI:
Ninnau'n y fedel yn medi plant,—
medi egin a blagur a dail heb lydanedd,
ystod a seldrem ac ysgub a stacan o egin îr
a'n llwydrew'n y fedel yn medi gwanwyn y gwyn-fan-draw,—
y plant sydd i ffermio'r dyfodol.
(Newidier lliwiau'r golau).
ELEN a SAL:
Mamau yn wylo am eu plant am nad ydynt,
a dim byd ar ôl ond lle gwag;
a'r felltith yn disgyn arnom ni'n darth,
—tarth o ffosydd a siglennydd y gors, cors.
Glangors-fach a siglennydd y dial—
a mamau yn wylo am eu plant am nad ydynt.
SAL:
Arnat ti, Ifan, 'roedd y bai, mor lletchwith, mor ddiffrwyth,
IFAN:
Sut oeddwn i i wybod y byddai fe'n cwympo a tharo'i ben?
SAL:
Druan o'i ben bach e!
Sut oeddit ti i wybod a thithau mor gas!
ELEN:
'Roeddit ti'n gas i'r 'nifeiliaid, yn gïaidd,
heb ffordd ar eu trin nhw ond pwnio a rhegi;
'roedd yr hen gaseg felen dy ofn di wrth ei phen. . .
Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/14
Prawfddarllenwyd y dudalen hon