SAL:
Fy nghrwt bach i oedd e er ei wendid,
fy machgen bach i, fy ngofal;
ond fi oedd ei fam e i ofalu ac anwylo . . .
IFAN:
a'i gyrraedd e heb drugaredd bob yn ail am y peth lleia.
RHYS:
Fel yna roedd hi orau,
—fe gadd fynd heb ddiodde—ac ni fyddai fawr raen ar ei fyw.
Rhaid plygu i'r Drefen;
fe gadd e orwedd ar wely'r pen-isa i farw.
SAL:
Fe gadd e bentymor a gorffwys digyffro.
RHYS:
Fe, yn ei farw, sy'n ein clymu ni 'nôl wrth blant dynion.
ELEN:
Ond ni chafodd Lisi-Jane ddim dod adre.
IFAN:
Garw i Lisi-Jane fynd oddi cartre erioed,
a'i heisiau hi yma: 'doedd gennyf i neb,—
neb, ond fe fynnodd fy ngadael. Pam oedd raid arni fynd!
SAL:
'Doeddit ti ddim o'r hawsa i gyd-fyw gydag e,
a pheth oedd ar y gors i ferch ifanc?
Pa obaith?
ELEN:
'Roedd siawns iddi ar gerdded. . .
IFAN:
i wisgo'n grand, a phowdwr a phaent,
a'r sodlau main papur, pan ddôi hi'n ei thro,
yn mynd ar goll yn y gors.
'Roedd siawns iddi oddi cartre i ddal cariadon,
a chael ei dal druan fach fel ei mam o'r blaen,
RHYS:
Ifan! Mae'r gorau'n llithro a chael anlwc,—
gartre ac ar gerdded: anlwc a ddaeth iddi . . .
Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/16
Prawfddarllenwyd y dudalen hon