Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IFAN:
Ac i'w mam arni hithau.
Elen, petai hi wedi aros gartre fel 'roeddem ni
i gyd yn bwriadu—

RHYS:
(iddi hi ac i Berti 'roem ni'n cymryd y lle,
y plant oedd i ffermio'r dyfodol).

IFAN:
—'fyddai hi ddim wedi dod adre fel daeth hi.

ELEN:
'Doedd dod adre fel y daeth hi'n ddim wrth ei cholli;
petai hi'n fam i ddeg o blant gordderch a chael byw
ni fyddai'r man gwag tan fy nghalon i'n bwysau;
ei mam sydd yn gwybod ei cholli, a'r gwacter fel pwll.

IFAN:
Rhaid plygu i'r Drefen, a derbyn y gosb wedi syrthio,—
a mynd oddi yma a 'ngadael i heb neb. . .

ELEN:
Nid cael plant-siawns oedd y felltith ar Lisi-Jane na minnau,
neu pam nad ych chwi'n eich beddau'n gorffwyso?
Mae'r felltith yn bwrw'i gwraidd trwy'r holl le,
yn bwrw'i chysgod tros bob un ohonom.

IFAN:
Ond 'roem ni i gyd yn dibynnu ar Berti a Lisi-Jane . . .

SAL:
Ifan bach, 'does gennyt ti ddim amgyffred o'r golled,—
mamau, rhieni, sy'n colli plant;
colli gofal tros eu gwendid, ac o! 'r gwacter o'i golli,
arswydo rhag iddynt syrthio, a'r gwacter pan dderfydd yr arswyd
o gloi'r greddfau digyffro yn saff mewn diogelwch
a bedd sydd â'i waelod o'r golwg.

ELEN:
I Sal a minnau y bu'r golled,—
ni brofodd boen pleser eu creu, a phleser gwewyr eu geni;
ni fu'n datrys eu dagrau ac yn cyrlio eu chwerthin,
a'r grib, oedd mor ysgafn, yn sgrafellu trwy'r cof.
Cnawd o'n cnawd, a darnau o'n profiad ni oeddynt,—
darnau wedi eu rhwygo o'n profiad a'n cnawd,
a'r gwacter yn bwll yn y mennydd,
yn y galon yn fedd na chaiff waelod.