ELEN:
a hwythau'r cymdogion yn chwerthin eu piti
ac yn anfodlon dod trannoeth;
SAL:
ar ôl iddi hinddanu, 'rwy'n credu meddit tithau
y galla innau roi nghot amdana i 'nawr,
a'th grys di'n mygu!
'Doedd dim ryfedd i'r cryd gloi pob cymal yn dy esgyrn.
IFAN:
'Doedd neb ond cymdogion gennyf, i . . .
ELEN:
fe gefaist 'rhen Betsi i yrru dy gadair. . .
IFAN:
. . . do, o'i phriodi, a 'doedd hi ddim yn llawn llathen:
a bu raid arni hithau druan farw, fel chwi'ch dwy,
a gyrru'r gadair i'r wyrcws.
A daeth amser ystwytho'r cymalau, eu hwystwytho mewn bedd ar y plwy.
RHYS:
Lleithder y gors yw'r felltith sy'n lladd.
SAL:
y gors sy'n arllwys ei llid ac yn lladd.
ELEN:
y dŵr sy'n nawseiddio yw'r felltith trwy'r gors.
Y dŵr sydd yn peswch, fel dŵr yng ngheg cwter—
yn peswch trwy'r ysgyfaint yn goch fel rhwd pibau cwterion y gors,—
yw'r nych a'r decâd.
Dim ond peswch bach cwta, ddefnyn ar ddefnyn llechwraidd,
nes dod y llifogydd i boeri'r chwyn rhydlyd
yn ddarnau o ysgyfaint yn llaith ar obennydd,—
y lleithder sy'n lladd.
RHYS:
Y gors sydd mor farw na thyf dim byd arni ond tlodi,
a'r bwrdd yn ddifoethau yn ddienllyn a difloneg,
a'r ais yn leision gan fara-tê a chawl heli-cig-moch.
Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/20
Prawfddarllenwyd y dudalen hon