Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IFAN:
Ni bu plisgyn ŵy yn y lludw erioed. . .

ELEN:
Pwy fentrai eu llyncu'n dairceiniog yr ŵy?

SAL:
Na mentro pan fyddai dau-ddwsin am swllt,—
yr ieir oedd yn dodwy y siwgwr a'r te,
y 'baco i chwi'r gwŷr, a sgidiau i'r plant.

RHYS:
Tlodi'r gors yw'r decâd.

ELEN:
Y darfodedigaeth mor ysgafn ei hofran mor esmwyth ei wendid,—
ysgafn ac esmwyth fel plu plu'r-gweunydd;
a'r tlysni gwyn melfed yn dwyll tros y gors,
y clefyd gwyn melfed sy'n rhwyll yn y gors.

RHYS:
Fe gredasom ni dy fod ti ar wellâd yn y sbyty
wedi gadael y gors a chael bwyd da . . .

SAL:
a thaflu'r clai clocsiog o'r esgidiau.

ELEN:
Fe ysgafnodd fy nhraed
wrth imi'r tro cyntaf erioed ddatod
clymau llymglwm fy lludded, a gorffwys,
a'm hesgyrn yn gwisgo amdanynt gnawd
gan gredu y caent godi a dawnsio,—
dawnsio dawns y plu'r-gweunydd tros wyneb y gors.
O doctor, 'rwy'n gwella, 'rwy'n siwr mod i'n well:
druan fach, meddai yntau:
a minnau'n adnabod ei biti, yn gwybod,—
beth arall wyddwn i o ddiwrnod cwrdd â chorff Lisi-Jane yn y stesion?
Blodau'r gors oedd fy ngeiriau,—
a minnau'n eu hadnabod wrth siarad â'r doctor,-
yn gwahodd fy lludded i ddawnsio yn fy nghors,
Yna'n dal fy nhraed, clymu f'esgyrn, â'u clymau
llymglwm, yn lludded fy nghors.