Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IFAN:
Nid clefyd i wella oedd dy glwy, nid y decâd
ond y llall: does dim datroi ar y rhodau na dad-ddirwyn
pan gydio'r godreon yn nannedd y geryn.
Gofidio o golli Lisi-Jane oedd dy glefyd.

ELEN:
Bu angladd fy einioes ddydd claddu fy mhlentyn,—
i beth yr ymladdwn i mwy â'r gors?

RHYS:
Un clefyd ar y llall yn pesgi, fel llynger . . .

IFAN:
ac Elen yn ymlâdd o ildio i'r gofid,—
y gofid nad addefaist:
ei bod hi'n blentyn gordderch yn cael plentyn gordderch;
bod y gwendid a gododd hi yn dy waed yn achos ei marw:
dyna'r gofid a guddiasit ti â gofid ei cholli.
Y gofid a fagodd y decâd, nid y gors.

SAL:
Nid y gors roes y cryd ym mhob cymal i tithau, debygwn!

IFAN:
Nid y gors? Ond beth arall?

SAL:
Dy hen natur-gas di, meddai'r bobol;
e fydd e'n ffaelu cyffro maes-law, oedd geiriau 'rhen Fari Gors-lwyd
ffaelu cyffro o roi cic i'r ast las nes torri ei chynffon,
fe ddaw barn ar ei hen gymalau fe, wir-duw
Dy hen natur-gas di'n pwnio'r da wrth yr aerwy,
a sŵn dy regfeydd di ar y caeau a'r clos
rhwng y 'nifeiliaid yn tynnu barn ar dy ben.
Mi ddisgynnodd, ac nid esgus, ond do!

RHYS:
Sal, Sal! 'Rym ni'n gwybod,
ond y gors yw'r felltith a'r farn ar ein pennau,—
cors Glangors-fach sy'n cau drysau ymwared.

ELEN a SAL:
Drysau ymwared yn cau yn ein herbyn,
a'r llwybrau o'r gors yn cau,-ond ar angau;
nych ac afiechyd yn codi fel tarth