o gors Glangors-fach ac yn cau o'n blaenau,—
yn wal heb ddrws, yn gors heb lwybrau,
ond drws yr angau, a'r beddau nid oes pâr ar eu dorau.
(Newidier lliwiau'r golau).
MARI a SHANI:
Yr ing na all aros i'r angau hamddenol,
y boen sydd bennyd heb iddi ddibendod,
yr hiraeth sy'n herwa ar erwau marwolaeth,
y tlodi, a hir-warth gorthrymder y gors
yw offer hwsmonaeth i lyfnu'n chwâl
fel bo'r gwyllion a heuir ar âr y gwylltineb
yn hodi ac aeddfedu'n wallgofrwydd.
GŴR:
Arfaethwyd cors Glangors-fach i'n gwehelyth,
a had pob gwanwyn ym mhridd pob hydre,
y tadau fel cnau gwisgi'n gweisgioni yn eu tymor
nes i'w gwaed yn fy ngwaed i wehilio:
ond ofer eich cynllwyn: afradu'r gwely yw'r gwallgofrwydd.
MARI:
E fynnem ni o'r groth dorri gafael y tylwyth
a dianc rhag llid yr alanas, a ffaelu;
SHANI:
a ffoledd y methu'n troi'n ffaeledd a gwrthuni.
MARI:
Disgwyl bob gaeaf i'r angau eich symud,
ac yntau, er taer-weddi, mor hwyrdrwm ei glyw:
SHANI:
Gwae na baech farw mewn pryd
inni ochel gwyryfdod gorfod a chael iechyd !
GŴR:
Wyrion, taer-ddisgwyl wyrion, etifeddion !
I hynny yr haeraswn yr angau,-ond ni ddoent.
Ni ddoent, ac ni ddaethant.
MARI:
Ni fynnem ni blanta'n y gors, nac o'r gors. . .
SHANI:
nac o fwriad aberthu plant i grombil y gors.
Magu plant, nid epilio etifeddion, yw iechyd.
Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/23
Prawfddarllenwyd y dudalen hon