MARI:
Chwi, a'ch hysio, a barodd inni'n hesbon droi arnoch a'ch cornio,
a'r Dre'n ysborioni'n rhadau mor rhad.
Y chwant heb ei charthu'n goganu'r cnawd ar y gogil. . .
SHANI:
y cnawd ar y gogil yn nhefyrn gwallofain,
a'r iasau diserch yn hidlo gwaddod eu surni
ar y lludw llawenydd yn y llestr poer.
MARI:
Yn y Dre'n etifeddion i'n tad gwallgofus,
yn wallgo'n y Dre gan wallgofrwydd y gors.
GŴR:
Am y pared ag angau canfod eich ynfydrwydd
a melltithio y pla cynddeiriog wrth drengi;
cau drysau ymwared o'r gors yn dragywydd
na bo dianc i neb rhag gwallgofrwydd y gors.
MARI a SHANI:
Yr ing na all aros i'r angau hamddenol,
y boen sydd benyd heb iddi ddibendod.
yr hiraeth sy'n herwa ar erwau marwolaeth,
y tlodi, a hirwarth gorthrymder y gors
yw offer hwsmonaeth i lyfnu'n chwâl
fel bo'r gwylltion a heuir ar âr y gwylltineb
yn hodi ac aeddfedu'n wallgofrwydd.
(Newidier lliwiau'r golau).
ELEN a SAL:
Ing a phoen a hiraeth a thlodi
yw offer hwsmonaeth i lyfnu'n chwâl;
ac ar âr y gwylltineb bydd cnwd o ellyllon,—
fylturiaid a dreigiau a gwyllion gwallgofrwydd.
SAL:
'Roeddit ti, Rhys, yn wahanol i mi, rhaid cyfadde. . .
ELEN:
yn wahanol i ni'n tri.
'Roeddit ti ar wahân,— yn mesur dy gamre,
yn gymwys dy gerdded. . .
SAL:
yn ffermio, ac nid stablan,-a lwc yn dy ddilyn.
Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/24
Prawfddarllenwyd y dudalen hon