IFAN:
Yr hufen na chorddai yn drewi'r crochanau,
y gwair yn pydru ar yr adladd,
y llafur yn egino'n y stacan, a'r helmydd heb eu toi tan Nadolig,
y tatw'n rhewi'n y clâdd, a'r mawn ar y gors heb eu codi,
buwch gyflo yn rhwygo ei chader ar rwd weiren bigog,
a'r hwch-fagu'n gorwedd ar y dorraid foch-bach yn y wâl.
Ac arna i 'roedd y bai meddai Sal, meddai chwi,—
arna i 'roedd y bai am bob anlwc a cholled.
Arna i 'roedd y bai bod colled ar Sal,—
bod y beili a'r gwerthu wedi drysu ei synhwyrau !
RHYS:
Bu colli'r crwt bach yn ormod o ergyd, a'r tlodi ar ben hynny.
IFAN:
Y gors ddaeth â'r beili i Langors-fach
i'n gwerthu ni'n grwn o Langors-fach. . .
RHYS:
Ond 'chadd e ddim gwerthu, bu'r cymdogion yn garedig. . .
IFAN:
'chadd e ddim gwerthu, fe fu symud tros nos
a lle gwag yn ei dderbyn y bore;
yna'r casglu 'nôl adre fel chwedl Llyn y Fan,
'nôl adre ar sodlau'r bwm-beili.
SAL:
Nôl adre bob un o'r gwallgofrwydd,—ond fi:
dim ond fi â cholled ar goll yn y gors,—
IFAN:
ar goll heb dy sgidiau, a'th sgrech yn ddiasbad trwy'r pibrwyn.
SAL:
Gwdihŵ, gwdihŵ ar ddisberod trwy'r gors wedi'r tlodi.
ELEN:
Yr hiraeth ar ôl Berti oedd yn dy wasgu nes dy lorio.
IFAN:
A fi fu raid mynd â thi oddi yma'n y bore—
Mynd â thi oddi yma, druan fach, yn y bore.
Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/26
Prawfddarllenwyd y dudalen hon