Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHYS:
'Dwn i ddim. Na, meddai'r crwner.
Pwy a ŵyr? Mae curiad caredig yng nghalon y gyfraith,
a 'doedd neb i gael cam meddai hi o'm hachos,-
ond 'roedd hynny'n fy nghyfrif innau,-
fi oedd yr ola, heb neb ar fy ôl tan ddicter cyfreithiau.
Ac mi euthum mewn pryd cyn bod beili'n dod eilwaith i Lan-gors-fach.

ELEN:
'Roedd y lle wedi talu'n dy ddwylo crefftus.

RHYS:
'Doedd dim posib dal ati, a thalu gwas a bil doctor . . .

IFAN:
A'r doctor, fel cigfran ar frasder celanedd,
yn dordyn a boliog ar sgerbydau'r gors.

RHYS:
Mi delais y biliau bob un a gweld nad oedd wella,
a'r boen, mor arswydus, yn ysgraffinio'r ymennydd fel drysïen,—
gorfod sgrechain, yn ddyn cryf, gan y boen fel babi,
a'r sgrech yn dihengyd o fan hŷn na rheswm.

ELEN:
Y gwaed yn troi'n siwgr . . .

SAL:
. . . dyna eironi'r gors.

IFAN:
Cwympo'r ordd ar dy droed, a'r clais yn gig-marw: . . .

SAL: Cig-marw fel y cwbl o bawb yn y gors.

RHYS:
Diabetis a gangrin meddai'r doctor estronieithus
a bysedd y droed yn bydredd a drewdod.

SAL:
Mae'n od iti frwydro cyhyd â'r enbydrwydd,
ond 'roeddit ti'n mesur dy gamre, yn dethol dy gerdded.