RHYS:
Y gors sydd yn trechu ar ddiwedd pob codwm. . .
ELEN:
Ond dewis dy ddewis a wnest ti ar y dowlad. . .
RHYS:
E ddichon mai'r crwner oedd yn gwybod y gwir.
IFAN:
Gwall yn y co, ffit o golled, meddai hwnnw,
a gildio i'r gors fel ni'n tri yn y diwedd;
SAL:
yn ebyrth i grombil y gors wedi'r gwyn-fan-draw,
a melltith y gors yn ein gwysio i'r cwrt-lît
i roi cyfri, Fihangel, o'r rhent a'r les.
ELEN a SAL:
Rhy uchel y rhent a rhy hir y les,
Fihangel erlidiol, gostwng y rhent a diryma'r les.
Mae gwreiddiau'r felltith yn derfysg trwy'r pridd,
y gwreiddiau estynnol sy'n siglo awdurdod y bedd.
Gostwng dy rent a diryma'r les;
gad inni bentymor, gad ddiwedd.
(Newidier lliwiau'r golau).
MARI a SHANI:
Ni bydd na phentymor na diwedd,
bydd gwylnos Fihangel y meirwon byth bythoedd.
Ni dderfydd y benyd iddynt hwy nac i ninnau;
y bedd yn gloesi'r rhithiau o'i stumog
yn chwydu'r aflendid i wacter y gors.
Piau'r gors?Piau Glangors-fach ein gwehelyth?
Cors Glangors-fach biau'n hiliogaeth ddihennydd
o'r bore cyn bod gwawr i'r hwyr na ŵyr fachlud.
GŴR:
Hyd fyth y bydd gwacter yng Nglangors-fach,
a'r aelwyd a fydd adfail yng Nglangors-fach;
mieri ac ysgall a drain lle bu mawredd
a'i llwybrau yn lleoedd y dylluan.
Disgynnodd y felltith ddiymod ar y gors
a dialedd y gwaed yn aredig mynwentydd
i wysio tenantiaid i Langors-fach.
Brodorion y beddau'n crwydro'n ddiadlam
a'r tadau yn derbyn eu gwobr.
Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/29
Prawfddarllenwyd y dudalen hon