Tudalen:Meini Gwagedd.djvu/8

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwisger GŴR GLANGORS-FACH a'i ferched yn gynnil i awgrymu eu bod un-to yn hyn na'r Pedwar. Eithr gwisger pawb, er mai "ysbrydion" ydynt, fel tyddynwyr normal.

MARI a SHANI:
Heno, mi ddônt yma i'r gegin, 'nôl yma,
i gecran-cweryla, y pedwar,
—Ifan ac Elen a Sal a Rhys—
yng ngwylnos Fihangel y meirw.
A ninnau yma, o'u blaen, ar eu hôl,
heb fynd oddi yma erioed, ni'n tri;
yma yr oeddem ni cyn iddyn nhw ddod,
amdanyn nhw'n darth, i'w gyrru i'r bedd
heb orwedd ar wely'r pen-isa.

MARI:
Yma bydd raid inni fod am byth,—
ti Shani a minnau a 'nhad;
pan aethom ni i'r Dre wedi claddu 'nhad '
roedd e wedi'n clymu ni'n un â'r gors.

SHANI:
Cors Glangors-fach oedd y stryd a'r tai,
pwdel y gors oedd ein sgidiau melynion
a'n ffrociau sidêt. . .

MARI:
Caglau a thasg
pwll-domen y clos oedd y blodau a'r plu
ar ein hetiau crand. . .

SHANI:
Dŵr sur pyllau mawn
wedi cronni i'n calonnau oedd ein gwaed ni'n dwy.

MARI:
Rhaid dianc i'r Dre rhag y gors. . .

SHANI:
tŷ bach yn y Dre rhag y gors. . .

MARI:
hewl sych tan ein traed, a lampau . . .

SHANI:
a rhent Glangors-fach yn sych wrth law
ddigon i'n cadw ni'n ladis. . .