Gwirwyd y dudalen hon
- (b) y caiff y person hwnnw gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r awdurdod gorfodi mewn perthynas â’r bwriad i osod gofyniad yn ôl disgresiwn,
- (c) ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno’r cyfryw sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r awdurdod gorfodi benderfynu p’un ai—
- (i) i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn, gyda neu heb addasiadau, neu
- (ii) i osod unrhyw ofyniad arall yn ôl disgresiwn y mae gan yr awdurdod gorfodi y pŵer i’w osod o dan baragraff 4,
- (d) pan fo’r awdurdod gorfodi yn penderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn, bod yr hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag isbaragraff (4), ac
- (e) bod y person y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno yn cael apelio yn erbyn y penderfyniad i’w osod.
- (2) I gydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth am—
- (a) y seiliau dros y bwriad i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn;
- (c) yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau;
- (c) yr amgylchiadau pryd na chaiff yr awdurdod gorfodi osod y gofyniad yn ôl disgresiwn;
- (d) y cyfnod pryd y caniateir cyflwyno sylwadau ac gwrthwynebiadau, nas caniateir i fod yn fwy na’r 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad.
- (3) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1) (c) gynnwys darpariaeth am amgylchiadau pryd na chaniateir i’r awdurdod gorfodi benderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn.
- (4) I gydymffurfio â’r is-baragraff hwn rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn isbaragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth am—
- (a) y seiliau dros osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,
- (b) pan fo’r gofyniad yn ôl disgresiwn yn gosb ariannol amrywiadwy—
- (i) sut y caniateir i’r taliad gael ei wneud,
- (ii) y cyfnod pryd y mae’n rhaid gwneud y taliad, a
- (iii) unrhyw ddisgowntiau am wneud taliadau cynnar neu gosbau am wneud taliadau hwyr,
- (c) hawliau apelio, a
- (d) canlyniadau peidio â chydymffurfio.
- (5) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi yn cynnwys y canlynol—
- (a) bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;
- (b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;