Gwirwyd y dudalen hon
- (c) yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;
- (d) yn achos gofyniad heb fod yn ariannol yn ôl disgresiwn, bod natur y gofyniad yn afresymol;
- (e) bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall.
Gofynion yn ôl disgresiwn: gorfodi
6 (1) Caiff darpariaeth o dan baragraff 4 gynnwys darpariaeth i berson dalu cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) i awdurdod gorfodi os yw’r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad heb fod yn ariannol yn ôl disgresiwn a osodir ar y person.
- (2) Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1)—
- (a) pennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio neu ddarparu i’r swm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau, neu
- (b) darparu i’r swm gael ei benderfynu gan yr awdurdod gorfodi neu drwy rhyw ffordd arall.
- (3) Os yw rheoliadau yn gwneud darpariaeth o fewn is-baragraff (2)(b), rhaid iddynt, mewn perthynas â phob math o fethiant y caniateir gosod cosb am beidio â chydymffurfio—
- (a) pennu’r gosb uchaf y caniateir ei gosod am fethiant o’r math hwnnw, neu
- (b) darparu am benderfynu’r gosb uchaf honno yn unol â’r rheoliadau.
- (4) Rhaid i ddarpariaeth o dan is-baragraff (1) sicrhau —
- (a) bod y gosb am beidio â chydymffurfio yn cael ei gosod drwy hysbysiad a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi, a
- (b) bod y person y gosodir hi arno yn cael apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.
- (5) Rhaid i ddarpariaeth yn unol â pharagraff (b) o is-baragraff (4) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn hysbysiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw yn cynnwys y canlynol—
- (a) bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad wedi ei seilio ar gamgymeriad ffeithiol;
- (b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;
- (c) bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm (gan gynnwys, mewn achos pan benderfynwyd swm y gosb am beidio â chydymffurfio gan yr awdurdod gorfodi, bod y swm yn afresymol).
Hysbysiadau stop
7 (1) Caiff y rheoliadau roi i awdurdod gorfodi y pŵer i gyflwyno hysbysiad stop i berson.
- (2) At ddibenion yr Atodlen hon “hysbysiad stop” yw hysbysiad sy’n atal person rhag cyflawni gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad hyd nes i’r person gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.
- (3) Ni chaiff darpariaeth o dan y paragraff hwn ond rhoi’r cyfryw bwˆ er mewn perthynas ag achos sy’n dod o fewn is-baragraff (4) neu (5).
- (4) Mae achos yn dod o fewn yr is-baragraff hwn pan fo—
- (a) y person yn cyflawni’r gweithgaredd,