Gwirwyd y dudalen hon
- (b) yr awdurdod gorfodi yn credu’n rhesymol bod y gweithgaredd fel y’i cyflawnir gan y person hwnnw yn achosi, neu’n peri risg arwyddocaol o achosi, niwed difrifol i iechyd pobl, ac
- (c) yr awdurdod gorfodi yn credu bod y gweithgaredd fel y’i cyflawnir gan y person hwnnw yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys toriad yn y rheoliadau a wneir o dan adran 14B gan y person hwnnw.
- (5) Mae achos yn dod o fewn yr is-baragraff hwn pan fo’r awdurdod gorfodi yn credu’n rhesymol—
- (a) bod y person yn debygol o gyflawni’r gweithgaredd,
- (b) y bydd y gweithgaredd, o’i gyflawni yn y ffordd y mae’r person hwnnw yn debygol o’i gyflawni, yn achosi, neu’n peri risg arwyddocaol o achosi, niwed difrifol i iechyd pobl, ac
- (c) y bydd y gweithgaredd, o’i gyflawni yn y ffordd y mae’r person hwnnw yn debygol o’i gyflawni yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys toriad yn y rheoliadau o dan adran 14B gan y person hwnnw.
- (6) Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) fod yn gamau i ddileu neu leihau’r niwed neu’r risg o niwed y cyfeirir ato yn is-baragraff (4)(b) neu (5)(b).
Hysbysiadau stop: y weithdrefn
8 (1) Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 7 sicrhau’r canlyniadau yn is-baragraff (2) mewn achos pan fo hysbysiad stop yn cael ei gyflwyno.
- (2) Dyma’r canlyniadau hynny—
- (a) rhaid i’r hysbysiad stop gydymffurfio ag is-baragraff (3),
- (b) caiff y person y cyflwynir ef iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno,
- (c) pan fo’r awdurdod gorfodi, ar ôl i’r hysbysiad gael ei gyflwyno, yn fodlon bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r awdurdod gorfodi ddyroddi tystysgrif i ardystio i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”),
- (d) mae’r hysbysiad yn peidio â bod yn effeithiol wrth i dystysgrif gwblhau gael ei dyroddi,
- (e) caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo wneud cais ar unrhyw bryd am dystysgrif gwblhau,
- (f) rhaid i’r awdurdod gorfodi benderfynu p’un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau ai peidio a hynny cyn pen 14 o ddiwrnodau ar ôl i’r cyfryw gais gael ei wneud, ac
- (g) caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau.
- (3) I gydymffurfio â’r is-baragraff hwn rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth am—
- (a) y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad,
- (b) hawliau apelio, ac
- (c) canlyniadau peidio â chydymffurfio.