Cydymffurfio ag egwyddorion rheoleiddiol
20 Rhaid i awdurdod gorfodi weithredu yn unol â’r egwyddorion a ganlyn—
- (a) dylai gweithgareddau rheoleiddiol gael eu cyflawni mewn ffordd sy’n dryloyw, atebol, cymesur a chyson;
- (b) dim ond at achosion pryd y mae angen camau gweithredu y dylid targedu gweithgareddau rheoleiddiol.
Adolygu
21 :(1) Rhaid i Weinidogion Cymru yn unol â’r paragraff hwn adolygu gweithrediad unrhyw ddarpariaeth a wnaed ganddynt i roi pŵer i awdurdod gorfodi (gan eu cynnwys hwy eu hunain) osod cosb sifil mewn perthynas â thorri rheoliadau diogelwch.
- (2) Rhaid i’r adolygiad ddigwydd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau ar y diwrnod pryd y daw’r ddarpariaeth i rym.
- (3) Rhaid i’r adolygiad ystyried yn benodol a yw’r ddarpariaeth wedi rhoi ei hamcanion ar waith yn effeithlon ac yn effeithiol.
- (4) Wth gynnal adolygiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau y mae’n briodol yn eu barn hwy i ymgynghori â hwy.
- (5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canlyniadau adolygiad o dan y paragraff hwn.
- (6) Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o adolygiad o dan y paragraff hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Atal dros dro
22 (1) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud darpariaeth sy’n rhoi pŵer i awdurdod gorfodi heblaw hwy eu hunain i osod cosb sifil mewn perthynas â thorri rheoliadau diogelwch, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod gorfodi—
- (a) pan fo’r pŵer yn bwˆ er i osod cosb ariannol benodedig, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad pellach o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) mewn
perthynas â thoriad o’r math hwnnw;
- (b) pan fo’r pŵer yn bwˆ er i osod gofyniad yn ôl disgresiwn, i beidio â chyflwyno
unrhyw hysbysiad pellach o fwriad y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw;
- (c) pan fo’r pŵer yn bŵer i osod hysbysiad stop, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiadau stop pellach mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw;
- (d) pan fo’r pŵer yn bŵer i dderbyn ymgymeriad gorfodi, i beidio â derbyn unrhyw ymgymeriad pellach mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw.
- (2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond roi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â thorri rheoliadau diogelwch os ydynt wedi eu bodloni bod yr awdurdod gorfodi wedi methu ar fwy nag un achlysur—
- (a) â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir arno o dan yr Atodlen hon neu yn ei rhinwedd mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw,
- (b) â gweithredu yn unol â’r canllawiau a gyhoeddodd o dan baragraff 18 mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw, neu
- (c) â gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt ym mharagraff 20 neu egwyddorion eraill o arferion gorau mewn perthynas â gorfodi’r gyfraith o ran toriad o’r math hwnnw.