Gwirwyd y dudalen hon
6 Goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr
Ar ôl adran 14E o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14F Goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr
- (1) Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer goruchwylio dysgwyr sy’n defnyddio cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol.
- (2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill)—
- (a) rhoi pwerau i gorff perthnasol neu osod dyletswyddau arno;
- (b) darparu ynghylch hyfforddiant i bersonau sy’n goruchwylio dysgwyr.”
7 Cosbau sifil
- (1) Ar ôl adran 14F o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
- “14G Cosbau sifil
- Mae i Atodlen A1 effaith.”.
- (2) Mae i Atodlen y Mesur hwn effaith.
8 Awdurdod gorfodi
Ar ôl adran 14G o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14H Awdurdod gorfodi
- (1) Caiff rheoliadau benodi person neu gorff (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) i fod yn awdurdod gorfodi.
- (2) Caniateir penodi mwy nag un person neu gorff yn awdurdod gorfodi.
- (3) Caiff rheoliadau roi pwerau i awdurdod gorfodi neu osod dyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan adran 14A a chan reoliadau o dan adrannau 14B a 14C ac Atodlen A1 a chânt (ymhlith pethau eraill)—
- (a) rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i awdurdodi person (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “arolygydd”) i arfer y pwerau yn adrannau 14I a 14J,
- (b) gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r awdurdod gorfodi, neu
- (c) darparu i’r cyfryw ddeddfiad fod yn gymwys, gyda neu heb addasiadau, at ddibenion adran 14A a rheoliadau o dan adrannau 14B a 14C, yr adran hon ac Atodlen A1.
- (4) Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at berson neu gorff a benodir o dan yr adran hon ac maent yn cynnwys person a benodir gan awdurdod gorfodi.
- (5) Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys—
- (a) deddfiad pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed,