Gwirwyd y dudalen hon
“14M Rheoliadau: ymgynghori
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob awdurdod lleol ac ag unrhyw bersonau eraill y mae yn eu barn hwy yn briodol ymgynghori â hwy cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1.”.
14 Dehongli Ar ôl adran 14M o Fesur Teithio gan Ddysgwyr ::(cymru) 2008 mewnosoder—
“14N Dehongli adrannau 14A i 14K
- (1) Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 14A i 14K.
- (2) Mae pob un o’r canlynol yn “gorff perthnasol”—
- (a) awdurdod lleol;
- (b) corff llywodraethu ysgol a gynhelir.
- (3) Ystyr “cludiant i ddysgwyr” yw cludiant i’w gwneud yn hwylus i blentyn fynychu unrhyw fan perthnasol lle y caiff addysg neu hyfforddiant; ond nid yw’n cynnwys cludiant a ddarperir er mwyn teithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng safleoedd gwahanol o’r un sefydliad. :(4) Nid yw’r weithred o wneud unrhyw un o’r trefniadau a ganlyn i’w hystyried, ynddi’i hun, fel petai’n darparu cludiant i ddysgwyr neu’n sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu.
- (5) Y trefniadau a grybwyllir yn is-adran :(4) yw—
- (a) trefniadau i dalu’r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;
- (b) trefniadau i dalu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio cludiant.
- (6) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio is-adran :(3) yn y fath fodd ag i hepgor y geiriau o “ond nid yw’n cynnwys” hyd at ddiwedd yr is-adran.”.
15 Darpariaethau cyffredinol am orchmynion a rheoliadau
- (1) Diwygier adran 27 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr ::(cymru) 2008 ::(gorchmynion a rheoliadau) fel a ganlyn.
- (2) Yn is-adran :(2)—
- (a) ym mharagraff (a), ar ôl “neu” rhodder “ddosbarthau ar achos neu ddibenion
gwahanol neu”;
- (b) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“::(aa)i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;”;
- (c) ym mharagraff ::(b), ar ôl “achosion” mewnosoder “neu ddosbarthau ar achos”.
- (3) Yn is-adran :(3), hepgorer “adran 7 neu adran 8” a rhodder “7, 8, 14B, 14C, 14D, 14E,
14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1”.
- (4) Ar ôl is-adran (4), mewnosoder—