Gwirwyd y dudalen hon
- (a) ar gyfer darparu cyngor cyfreithiol di-dâl i unigolion sy'n ceisio iawn o dan y rheoliadau;
- (b) ar gyfer darparu gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau arbenigwyr meddygol, mewn cysylltiad â chais am iawn o dan y rheoliadau.
- (2) Rhaid i'r rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol er mwyn sicrhau bod unigolion y caniateir gwneud cynnig o iawn iddynt o dan y rheoliadau yn cael ymofyn am gyngor cyfreithiol yn ddi-dâl mewn perthynas ag—
- (a) unrhyw gynnig a wneir,
- (b) unrhyw wrthodiad i wneud y cyfryw gynnig; ac
- (c) unrhyw gytundeb setlo.
- (3) Caiff darpariaeth o dan is-adran (1)(a) neu (2) ynghylch pwy a gaiff ddarparu'r cyngor cyfreithiol gael ei gweithredu drwy gyfeirio at restr sy'n cynnwys darparwyr posibl ac a lunnir gan berson neu gorff penodedig.
- (4) Os yw'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau arbenigwyr meddygol, rhaid iddynt ddarparu hefyd bod yr arbenigwyr hynny yn cael eu cyfarwyddo ar y cyd gan y corff neu'r person sy'n gweithredu'r trefniadau iawn o dan y rheoliadau a chan yr unigolyn sy'n ceisio iawn.
8 Cymorth i unigolion sy'n ceisio iawn
- (1) Dyletswydd Gweinidogion Cymru yw trefnu, i'r graddau y maent yn barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diwallu pob gofyniad rhesymol, fod cymorth yn cael ei ddarparu (drwy gyfrwng cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolion sy'n ceisio iawn, neu'n bwriadu ceisio iawn, o dan y rheoliadau.
- (2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw drefniadau eraill y maent yn barnu eu bod yn addas ar gyfer darparu cymorth (drwy gyfrwng cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolion mewn cysylltiad ag achosion sy'n destun cais am iawn o dan y rheoliadau.
- (3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i unrhyw berson neu gorff yn unol â threfniadau o dan yr adran hon ac adran 7.
- (4) Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r egwyddor y dylai darparu gwasanaethau o dan y trefniadau mewn cysylltiad ag achos penodol, i'r graddau y mae'n ymarferol, fod yn annibynnol ar unrhyw berson y mae a wnelo'r achos â'i ymddygiad neu unrhyw berson sydd â rhan yn y gwaith o ymdrin â'r cais am iawn.
9 Swyddogaethau o ran trefniadau iawn
- (1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i unrhyw berson neu gorff o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru fod â'r swyddogaethau o ran gweithredu trefniadau iawn o dan y Mesur hwn y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn addas.
- (2) Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu i'r cyfryw bersonau neu gyrff fod â swyddogaethau mewn perthynas ag—
- (a) ymofyn am iawn;
- (b) taliadau yn iawn o dan gytundebau setlo;
- (c) darparu cyngor neu ganllawiau am faterion penodedig mewn cysylltiad â threfniadau iawn;