Gwirwyd y dudalen hon
13 Dehongli
- Yn y Mesur hwn—
- mae "anaf personol" ("personal injury") yn cynnwys unrhyw glefyd ac unrhyw amhariad ar iechyd corfforol neu feddyliol unigolyn;
- mae i "claf" yr un ystyr â "patient" yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);
- ystyr "y gwasanaeth iechyd yng Nghymru" ("the health service in Wales") yw'r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o'r Ddeddf honno;
- ystyr "proffesiynolyn gofal iechyd" ("a health care professional") yw aelod o broffesiwn (p'un a yw'n cael ei reoleiddio gan unrhyw ddeddfiad neu yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud (yn llwyr neu yn rhannol) ag iechyd corfforol neu iechyd meddyliol unigolion;
- mae i "salwch" yr un ystyr ag "illness" yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).
14 Teitl byr a chychwyn
- (1) Enw'r Mesur hwn yw Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008.
- (2) Daw'r adran hon i rym ar y diwrnod pan gymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.
- (3) Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y diwrnod neu'r diwrnodau a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.