Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

Dulliau teithio cynaliadwy

11 Dulliau teithio cynaliadwy

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru hybu'r defnydd o ddulliau teithio cynaliadwy pan fyddant yn arfer swyddogaethau o dan y Mesur hwn.
(2) Dulliau teithio yw "dulliau teithio cynaliadwy" y mae'r awdurdod neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) o'r farn eu bod yn ddulliau a all wella'r naill beth a ganlyn neu'r llall neu'r naill beth a ganlyn a'r llall sef— ::(a) llesiant corfforol y rhai sy'n eu defnyddio; ::(b) llesiant amgylchedd—
(i) ardal gyfan yr awdurdod lleol neu ran ohoni, yn achos awdurdod, neu (ii) Cymru gyfan neu ran ohoni, yn achos Gweinidogion Cymru.

Cod ymddygiad wrth deithio

12 Cod ymddygiad wrth deithio

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio cod ymddygiad wrth deithio.
(2) Cod yw cod ymddygiad wrth deithio sy'n nodi'r safonau ymddygiad y mae'n ofynnol i ddysgwyr y mae is-adran (3) yn gymwys iddynt eu harddel tra byddant yn teithio i'r mannau perthnasol lle y maent yn cael addysg neu hyfforddiant ac oddi yno (pa un a ydynt yn manteisio ar drefniadau teithio a wneir gan awdurdod lleol ai peidio).
(3) Mae'r is-adran hon yn gymwys—
(a) i ddysgwyr nad ydynt eto'n 19 oed;
(b) i ddysgwr sydd wedi cyrraedd 19 oed ac wedi cychwyn ar gwrs addysg neu hyfforddiant cyn cyrraedd yr oedran hwnnw ac sy'n parhau i fynychu'r cwrs hwnnw;
(c) i’r cyfryw ddysgwyr eraill ag a ragnodir.
(4) O bryd i'w gilydd, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r cod ymddygiad wrth deithio.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r cod.
(6) Cyn llunio cod neu ei adolygu rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r cyfryw bersonau ag y maent o'r farn eu bod yn briodol.

13 Gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: disgyblion mewn ysgolion perthnasol

(1) Diwygir adran 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran :(2), ar ôl "The head teacher" mewnosoder "of a relevant school in England".
(3) Ar ôl is-adran :(2) mewnosoder—
"(2A) The head teacher of a relevant school in Wales must in determining such measures—
(a) act in accordance with the current statement made by the governing body under section 88(2)(a),