Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/13

Gwirwyd y dudalen hon
(b) have regard to any notification or guidance given to him under section 88:(2)::(b), and
(c) require pupils at the school to comply with the travel behaviour code made by the Welsh Ministers under section 12 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008."
(4) Yn is-adran (3) yn lle "The" rhodder "In relation to a relevant school in England, the".
(5) Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
"(3A) In relation to a relevant school in Wales, the standard of behaviour which is to be regarded as acceptable must be determined by the head teacher, so far as it is not determined by— ::(a) the governing body, or
(b) the Welsh Ministers."
(6) Yn is-adran (5), ar ôl "head teacher" mewnosoder "of a relevant school in England".
(7) Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
"(5A) The measures which the head teacher of a relevant school in Wales determines under subsection :(1) may, to such extent as is reasonable and not required by subsection (2A)::(c), include measures to be taken with a view to regulating the conduct of pupils at a time when they are not on the premises of the school and are not under the lawful control or charge of a member of the staff of the school."

14 Gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu'n ôl drefniadau teithio

(1) Mae'r adran hon yn gymwys i ddysgwyr y gwneir trefniadau teithio ar eu cyfer o dan adran 3 neu 4.
(2) Caiff yr awdurdod lleol dynnu'n ôl drefniadau teithio a wnaed ar gyfer dysgwr—
(a) os yw'r awdurdod yn fodlon bod y dysgwr wedi methu â chydymffurfio â'r cod ymddygiad wrth deithio a wnaed o dan adran 12, a
(b) os bodlonir yr amodau canlynol sy'n gymwys i'r dysgwr.
(3) Mae'r chwe amod canlynol i gyd yn gymwys i unrhyw ddysgwr sy'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.
(4) Mae'r cyntaf, y trydydd a'r pedwerydd o'r amodau canlynol yn gymwys i unrhyw ddysgwr nad yw'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol berthnasol.
(5) Yr amod cyntaf yw, cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud i dynnu'n ôl drefniadau teithio—
(a) bod cyfle'n cael ei roi i'r dysgwr ac i riant y dysgwr i wneud sylwadau, a ::(b) bod yr awdurdod lleol yn ystyried y sylwadau hynny.
(6) Yr ail amod yw—
(a) yr ymgynghorir â phennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig ynghylch y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio; a