Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/14

Gwirwyd y dudalen hon
(b) yr hysbysir pennaeth yr ysgol berthnasol lle y mae'r dysgwr yn ddisgybl cofrestredig o'r penderfyniad o leiaf 24 awr cyn bydd tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol.
(7) Y trydydd amod yw bod y penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(8) Y pedwerydd amod yw bod yr awdurdod lleol yn hysbysu rhiant y dysgwr, o leiaf 24 awr cyn i dynnu'n ôl y trefniadau ddod yn effeithiol, bod y trefniadau teithio'n cael eu tynnu'n ôl.
(9) Y pumed amod yw nad yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn fwy na 10 niwrnod ysgol dilynol.
(10) Y chweched amod yw na fyddai'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn arwain at dynnu'n ôl drefniadau teithio oddi wrth y dysgwr am fwy na 30 o ddiwrnodau ysgol yn y flwyddyn ysgol y mae tynnu'n ôl y trefniadau yn dod yn effeithiol ynddi.
(11) Wrth benderfynu a yw penderfyniad i dynnu'n ôl drefniadau teithio yn rhesymol at ddibenion is-adran :(7), rhaid ystyried yn benodol y materion canlynol—
(a) a yw'r cyfnod pan yw'r trefniadau wedi eu tynnu'n ôl yn gymesur ag amgylchiadau'r achos,
(b) unrhyw amgylchiadau arbennig sy'n berthnasol i dynnu'n ôl drefniadau teithio ac sy'n hysbys i'r awdurdod lleol (neu y dylai'r awdurdod lleol fod yn ymwybodol ohonynt) gan gynnwys yn arbennig—
(i) oed y dysgwr,
(ii) unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod gan y dysgwr,
(iii) unrhyw anabledd a all fod gan y dysgwr,
(iv) a fyddai'r dysgwr yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus, a
(v) a all rhiant y dysgwr yn rhesymol wneud trefniadau teithio amgen sy'n rhai addas.

(12) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (6) neu is-adran (8) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi'n benodol—

(a) y cyfnod pan yw trefniadau teithio wedi eu tynnu'n ôl, a
(b) rhesymau'r awdurdod dros dynnu'n ôl y trefniadau teithio.

(13) At ddibenion yr adran hon ac adran 17, ystyr "ysgol berthnasol" yw—

(a) ysgol a gynhelir,
(b) uned cyfeirio disgyblion, neu
(c) ysgol arbennig nas cynhelir.

(14) Caiff rheoliadau—

(a) diwygio neu ddiddymu y naill neu'r llall o is-adrannau (9) a (10), neu'r ddwy;
(b) gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau a wneir o dan is-adran (2);