Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/15

Gwirwyd y dudalen hon
(c) gwneud darpariaeth ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan isadran :(2).

(15) Caiff rheoliadau o dan is-adran (14)::(c) yn benodol— ::(a) pennu'r categorïau o berson a gaiff apelio;

(b) pennu'r amgylchiadau pan ganiateir apelio;
(c) darparu ar gyfer cyfansoddiad panelau apelio;
(d) darparu ar gyfer gweithdrefnau apelio;
(e) gwneud darpariaeth ynghylch effaith penderfyniadau apêl;
(f) darparu ar gyfer talu lwfansau i aelodau o banelau apelio;
(g) ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth ynglyn ag apelau.

Atodol

15 Canllawiau a chyfarwyddiadau

(1) Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur hwn, rhaid i'r cyrff canlynol roi sylw i ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru—
(a) awdurdodau lleol;
(b) cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir;
(c) cyrff llywodraethu sefydliadau yn y sector addysg bellach.
(2) Rhaid i awdurdod lleol wneud y cyfryw drefniadau teithio i ddysgwyr o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei gyfarwyddo i'w gwneud.
(3) Wrth wneud trefniadau o dan adran 3, adran 4 neu adran 6 rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(4) Caniateir i gyfarwyddiadau o dan yr adran hon gael eu rhoi i un awdurdod lleol neu fwy neu i awdurdodau lleol yn gyffredinol.

16 Gwybodaeth am drefniadau teithio

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi, ar y cyfryw adegau ac yn y cyfryw fodd ag a ragnodir, wybodaeth—

(a) a ddaw i law wrth wneud asesiadau o dan adran 2(2);
(b) am asesiadau a wneir o dan yr adran honno;
(c) am y trefniadau teithio a wneir o dan y Mesur hwn;
(d) am y cod ymddygiad wrth deithio a wneir o dan adran 12.

17 Cydweithredu: gwybodaeth neu gymorth arall

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru roi i awdurdod lleol unrhyw wybodaeth neu gymorth arall y mae'n rhesymol bod ar awdurdod lleol ei hangen neu ei angen er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Mesur hwn.