Tudalen:Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.djvu/23

Gwirwyd y dudalen hon

ATODLEN 1

(a gyflwynir gan adran 25)

MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

Deddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981 (p.14)

1 Yn adran 46 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981 (teithwyr sy'n talu pris tocyn ar fysiau ysgol), yn is-adran (3), yn y diffiniad o "free school transport"—

(a) ym mharagraff (a) hepgorer "section 509(1) or (1A)";
(b) hepgorer "or" ar ddiwedd paragraff (aa); (c) ar ôl paragraff (aa) mewnosoder—

"(ab) in pursuance of arrangements under sections 3 or 4 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008, or".

Deddf Trafnidiaeth 1985 (p.67)

2 :(1) Diwygir adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (cofrestru gwasanaethau lleol) fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (1B)—
(a) hepgorer "section 509:(1) or (1A)," ym mharagraff (a);
(b) hepgorer "or" ar ddiwedd paragraff (b); (c) ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
"(d) the obligation placed on a local authority by sections 3 or 4 of the Learner Travel (Wales) Measure 2008; or
(e) the exercise of the power of a local authority under section 6 of that Measure."
(3) Yn is-adran (1C)(a), yn lle "or (c)" rhodder ", (c), (d) or (e)".

Deddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992 (p.13)

3 (1) Diwygir adran 57 o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992 fel a ganlyn.

(2) Yn is-adran (2)(b) ar ôl "any Act" mewnosoder "or any Measure of the National Assembly for Wales".
(3) Yn is-adran (2)(c) ar ôl "any Act" mewnosoder "or any Measure of the National Assembly for Wales".

Deddf Addysg 1996 (p.56)

4 (1) Diwygir Deddf Addysg 1996 fel a ganlyn.

(2) Yn adran 509AA (darparu cludiant ar gyfer personau o oedran chweched dosbarth)—