Prawfddarllenwyd y dudalen hon
- (b) i ymyrraeth â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg.
- (7) Caiff y Comisiynydd—
- (a) terfynu, neu
- (b) atal,
ymholiad, neu unrhyw agwedd ar ymholiad.
- (8) Os bydd y Comisiynydd yn ystod ymholiad yn dechrau amau y gall person fod wedi methu â chydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor—
- (a) wrth iddo barhau â'r ymholiad, rhaid i'r Comisiynydd, i'r graddau y bo'n bosibl, osgoi ystyried ymhellach a yw'r person wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion ai peidio,
- (b) caiff y Comisiynydd gychwyn ymchwiliad i'r cwestiwn hwnnw o dan Ran 5, ac
- (c) caiff y Comisiynydd ddefnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymholiad at ddibenion yr ymchwiliad.
(9) Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth atodol ynglŷn ag ymholiadau.
(10) Yn yr adran hon mae i gyfeiriad at fethiant i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor yr un ystyr ag yn Rhan 5.
8 Adolygiad barnwrol ac achosion cyfreithiol eraill
- (1) Caiff y Comisiynydd gychwyn achos cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, neu ymyrryd mewn achos o'r fath, os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd fod yr achos yn un sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
- (2) O ran is-adran (1)—
- (a) nid yw'n creu sail i achos, a
- (b) mae yn ddarostyngedig i unrhyw derfyn neu gyfyngiad a osodir yn rhinwedd deddfiad neu yn unol ag ymarferiad llys.
- (3) Yn yr adran hon, mae'r ymadrodd "achos cyfreithiol" yn cynnwys achosion gerbron unrhyw lys neu dribiwnlys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny.
9 Cymorth cyfreithiol
- (1) Caiff y Comisiynydd ddarparu cymorth i unigolyn os yw'r person hwnnw yn barti, neu os gall y person hwnnw ddod yn barti, i achos cyfreithiol gwirioneddol neu achos cyfreithiol posibl yng Nghymru a Lloegr sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.
- (2) Nid yw'r adran hon yn effeithio ar unrhyw gyfyngiad a osodir mewn cysylltiad â chynrychiolaeth—
- (a) yn rhinwedd deddfiad, neu
- (b) yn unol ag ymarferiad llys neu dribiwnlys.
- (3) Y Comisiynydd sydd i ddyfarnu, at ddibenion yr adran hon, a oes achos cyfreithiol posibl sy'n berthnasol i fater y mae gan y Comisiynydd swyddogaeth mewn cysylltiad ag ef.