Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw
- ymchwiliad y mae gan y Comisiynydd yr hawl i'w gynnal, neu ymchwiliad y
- mae'n ei gynnal, o dan adran 71.
- (7) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r diffiniad o “ombwdsmon”
- yn is-adran (6)—
- (a) drwy ychwanegu person;
- (b) drwy hepgor person;
- (c) drwy newid disgrifiad o berson.
- (8) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth arall sy'n
- briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â, at ddibenion, neu o
- ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (7), gan gynnwys, ond heb fod yn
- gyfyngedig—
- (a) i ddarpariaeth sy'n galluogi'r person arall i weithio gyda'r Comisiynydd, neu'n
- ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, a
- (b) i ddiwygiadau i unrhyw ddeddfiad.
- (9) Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (7), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori
- â'r person dan sylw ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy
- yn nhyb Gweinidogion Cymru.
- (10) Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau ynghylch Comisiynwyr ac Ombwdsmyn
- eraill yn gweithio ar y cyd ac yn gweithio'n gyfochrog â Chomisiynydd y Gymraeg.
- Datgelu gwybodaeth
- 22
- Y pŵer i ddatgelu gwybodaeth
- (1) Rhaid peidio â datgelu gwybodaeth y mae'r Comisiynydd wedi ei chael wrth arfer
- unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd onid awdurdodir y datgeliad
- gan is-adran (2).
- (2) Caiff y Comisiynydd ddatgelu'r wybodaeth—
- (a) at ddibenion arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd;
- (b) at ddibenion achos am dramgwydd o dyngu anudon yr honnir i'r tramgwydd
- gael ei gyflawni yn ystod ymchwiliad i orfodi safonau;
- (c) at ddibenion ymholiad gyda golwg ar gychwyn achos fel a grybwyllir ym
- mharagraff (b);
- (d) at ddibenion dyroddi tystysgrif o dan adran 107 (rhwystro a dirmygu);
- (e) os yw'r wybodaeth i'r perwyl bod person yn debygol o fod yn fygythiad i
- iechyd neu ddiogelwch un neu ragor o bersonau a bod y datgeliad yn
- ddatgeliad i berson sydd ym marn y Comisiynydd yn berson y dylid datgelu'r
- wybodaeth iddo er budd y cyhoedd;
- (f)
- os gwybodaeth o'r math a grybwyllir yn is-adran (3) yw'r wybodaeth, ac os
- gwneir y datgeliad i'r Comisiynydd Gwybodaeth;
- (g) os gwneir y datgeliad i berson a ganiatawyd, a bod y Comisiynydd yn fodlon
- bod amod budd y cyhoedd wedi ei fodloni;