Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/28

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
  • (i)
  • Comisiynydd Pobl Hyn
  • ˆ Cymru;
  • (j)
  • ombwdsmon tai a benodwyd yn unol â chynllun o dan adran 51 o
  • Ddeddf Tai 1996;
  • (k) cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
  • (l)
  • cyngor ar gyfer sir neu ddosbarth yn Lloegr;
  • (m) cyngor ar gyfer un o fwrdeistrefi Llundain;
  • (n) prif gwnstabl o'r heddlu ar gyfer ardal heddlu;
  • (o) prif gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydain;
  • ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw
  • ymchwiliad a wneir gan y Comisiynydd o dan adran 71.
  • (10) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn ddiwygio'r diffiniad o “person a
  • ganiatawyd” yn is-adran (9)—
  • (a) drwy ychwanegu person;
  • (b) drwy hepgor person;
  • (c) drwy newid disgrifiad o berson.
  • (11) Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (10), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori
  • â'r person o dan sylw ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â
  • hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.
  • RHAN 3
  • PANEL CYNGHORI COMISIYNYDD Y GYMRAEG
  • 23
  • Y Panel Cynghori
  • (1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi personau i fod yn aelodau o banel o gynghorwyr
  • i'r Comisiynydd.
  • (2) Mae'r panel i'w alw'n Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y
  • Mesur hwn fel y “Panel Cynghori”).
  • (3) I'r graddau y bo hynny'n ymarferol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod o leiaf 3
  • ond nid mwy na 5 o aelodau ar y Panel Cynghori ar unrhyw adeg.
  • (4) Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch aelodau'r Panel Cynghori.
  • 24
  • Ymgynghori
  • (1) Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori ynghylch unrhyw fater.
  • (2) Nid yw darpariaethau eraill y Mesur hwn sy'n darparu i'r Comisiynydd ymgynghori
  • â'r Panel Cynghori yn cyfyngu ar is-adran (1).
  • (3) Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at ymgynghori â'r Panel Cynghori yn gyfeiriadau at
  • ymgynghori ag unrhyw un neu ragor neu'r oll o aelodau'r Panel.