Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- RHAN 4
- SAFONAU
- PENNOD 1
- DYLETSWYDD I GYDYMFFURFIO Â SAFONAU
- 25
- Dyletswydd i gydymffurfio â safon
- (1) Rhaid i berson (P) gydymffurfio â safon ymddygiad a bennir gan Weinidogion Cymru
- yn unol â Phennod 2 os bodlonir, a thra bodlonir, yr amodau canlynol.
- (2) Amod 1 yw bod P yn agored i orfod cydymffurfio â safonau (gweler Pennod 3).
- (3) Amod 2 yw bod y safon yn gymwysadwy i P (gweler Pennod 4).
- (4) Amod 3 yw bod y safon yn benodol gymwys i P (gweler Pennod 5).
- (5) Amod 4 yw bod y Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i P (gweler Pennod
- 6).
- (6) Amod 5 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio yn ei gwneud yn ofynnol i P gydymffurfio
- â'r safon (gweler Pennod 6).
- (7) Amod 6 yw bod yr hysbysiad cydymffurfio mewn grym (gweler Pennod 6).
- (8) Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r hysbysiad cydymffurfio a
- roddir i P.
- (9) Am ddarpariaeth—
- (a) ynglŷn â'r hawl i herio mewn cysylltiad â'r ddyletswydd i gydymffurfio â
- safonau, gweler Pennod 7;
- (b) ynglŷn ag ymchwiliadau ac adroddiadau safonau, gweler Pennod 8;
- (c) ynglŷn â materion cyffredinol, gweler Pennod 9.
- PENNOD 2
- SAFONAU A PHENNU SAFONAU
- Pennu safonau
- 26
- Gweinidogion Cymru i bennu safonau
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—
- (a) pennu un neu ragor o safonau cyflenwi gwasanaethau,
- (b) pennu un neu ragor o safonau llunio polisi,
- (c) pennu un neu ragor o safonau gweithredu,
- (d) pennu un neu ragor o safonau hybu, ac