Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (a) cyflenwi gwasanaethau gan berson i berson arall, neu
- (b) delio gan berson ag unrhyw berson arall mewn cysylltiad â chyflenwi
- gwasanaethau—
- (i)
- i'r person arall hwnnw, neu
- (ii) i drydydd person.
- Safonau llunio polisi
- 29
- Safonau llunio polisi
- (1) Yn y Mesur hwn ystyr “safon llunio polisi” yw safon—
- (a) sy'n ymwneud â phenderfyniad polisi, a
- (b) y bwriedir iddo sicrhau, neu gyfrannu at sicrhau, un neu ragor o'r canlyniadau
- a ganlyn.
- (2) Y cyntaf o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi
- yn ystyried pa effeithiau, os o gwbl, (a ph'un ai yw'r effeithiau'n bositif neu'n
- andwyol) y byddai'r penderfyniad polisi yn eu cael—
- (a) ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu
- (b) ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- (3) Yr ail o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi yn
- ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau
- positif, neu effeithiau mwy positif—
- (a) ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu
- (b) ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- (4) Y trydydd o'r canlyniadau hynny yw bod y person sy'n gwneud y penderfyniad polisi
- yn ystyried sut y gellid gwneud y penderfyniad fel nad yw'r penderfyniad yn cael
- effeithiau andwyol, neu fel bod y penderfyniad yn cael effeithiau llai andwyol—
- (a) ar gyfleoedd i bersonau eraill i ddefnyddio'r Gymraeg, neu
- (b) ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- (5) Yn yr adran hon mae cyfeiriad at effeithiau positif neu effeithiau andwyol yn gyfeiriad
- at yr effeithiau hynny, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol.
- (6) Ystyr “penderfyniad polisi” yw penderfyniad gan berson—
- (a) ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau, neu
- (b) ynglŷn â chynnal ei fusnes neu ymgymeriad arall.
- Safonau gweithredu
- 30
- Safonau gweithredu
- (1) Yn y Mesur hwn ystyr “safon gweithredu” yw safon—
- (a) sy'n ymwneud â gweithgareddau perthnasol person (A), a
- (b) y bwriedir iddi hybu neu hwyluso defnyddio'r Gymraeg—