Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (3) Rhaid i'r diwrnod gosod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau gosod, ddod ar ôl diwedd y
- cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
- (4) Yn yr adran hon ystyr “diwrnod gosod” o ran safon yw—
- (a) y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon, neu,
- (b) y diwrnod oddi ar bryd y mae'n ofynnol i berson gydymffurfio â'r safon mewn
- modd penodol.
- (5) Am ddarpariaeth ynglŷn â rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr, gweler
- adran 48.
- 47
- Ymgynghori
- (1) Cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i'r Comisiynydd ymgynghori â'r
- person.
- (2) Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ymgynghori â
- pherson ar unrhyw fater os yw'r Comisiynydd wedi ei fodloni bod y person hwnnw
- eisoes wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y mater hwnnw, neu wedi cael
- cyfle i wneud hynny, mewn cysylltiad ag ymchwiliad safonau (gweler Pennod 8).
- (3) Nid yw methiant y person i gymryd rhan mewn ymgynghoriad yn atal y
- Comisiynydd rhag rhoi hysbysiad cydymffurfio i'r person hwnnw.
- 48
- Rhoi hysbysiadau cydymffurfio i gontractwyr
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys (ynghyd ag adrannau 45 a 46) mewn perthynas â
- pherson neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (y “gwasanaethau
- perthnasol”) o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wneir gydag awdurdod
- cyhoeddus (y “contract perthnasol”).
- (2) Dim ond—
- (a) os yw'n ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol
- wrth ddarparu'r gwasanaethau perthnasol i'r cyhoedd (neu y byddai wedi bod
- yn ofynnol i'r awdurdod cyhoeddus wneud hynny pe bai'n darparu'r
- gwasanaethau hynny i'r cyhoedd),
- (b) os gwnaed y contract perthnasol ar neu ar ôl diwrnod gosod yr awdurdod
- cyhoeddus, ac
- (c) os yw diwrnod gosod y person neilltuedig yn dod ar neu ar ôl diwrnod gosod
- yr awdurdod cyhoeddus,
- y caiff hysbysiad cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig nodi, neu gyfeirio at,
- safon benodol (y “safon berthnasol”) mewn perthynas â darparu'r gwasanaethau
- perthnasol o dan y contract perthnasol.
- (3) Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y gofyniad am i'r person neilltuedig gydymffurfio
- â'r safon berthnasol (sy'n codi yn rhinwedd bod hysbysiad cydymffurfio yn cael ei roi
- yn unol ag is-adran (2)) yr un fath â'r gofyniad, neu heb fod yn fwy na'r gofyniad, am
- i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon.
- (4) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr adran hon ac yn Atodlen 8 yr un ystyr yn yr
- adran hon ag yn Atodlen 8.