Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (5) Yn yr adran hon—
- ystyr “diwrnod gosod yr awdurdod cyhoeddus” (“public authority's imposition
- day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, y mae'n ofynnol i
- awdurdod cyhoeddus gydymffurfio â'r safon berthnasol;
- ystyr “diwrnod gosod y person neilltuedig” (“qualifying person's imposition
- day”) yw'r diwrnod, neu'r cynharaf o'r diwrnodau, a nodir yn yr hysbysiad
- cydymffurfio a roddir i'r person neilltuedig yn ddiwrnod y mae i fod yn
- ofynnol i'r person neilltuedig gydymffurfio â'r safon berthnasol mewn
- perthynas â darparu'r gwasanaethau perthnasol o dan y contract perthnasol.
- Amrywio hysbysiadau cydymffurfio
- 49
- Amrywio hysbysiadau cydymffurfio
- (1) Caiff y Comisiynydd amrywio unrhyw hysbysiad cydymffurfio.
- (2) Mae adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un
- modd ag y maent yn gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio, ond dim ond i'r
- graddau y mae'r hysbysiad wedi ei amrywio.
- (3) Mae adran 48 yn gymwys o ran amrywio hysbysiad cydymffurfio yn yr un modd ag
- y mae'n gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.
- Dirymu hysbysiadau cydymffurfio
- 50
- Dirymu hysbysiadau cydymffurfio
- (1) Caiff y Comisiynydd ddirymu unrhyw hysbysiad cydymffurfio.
- (2) Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys mewn achos pan fo'r Comisiynydd—
- (a) yn dirymu hysbysiad cydymffurfio a roddwyd i berson (yr “hen hysbysiad”),
- a
- (b) ar yr un pryd yn rhoi i'r person hwnnw hysbysiad cydymffurfio (yr “hysbysiad
- newydd”).
- (3) Dim ond i'r graddau y mae'r hysbysiad newydd yn wahanol i'r hen hysbysiad y mae
- adrannau 45 i 47 yn gymwys o ran rhoi'r hysbysiad newydd.
- (4) Mae adran 48 yn gymwys o ran rhoi hysbysiad newydd yn yr un modd ag y mae'n
- gymwys o ran rhoi hysbysiad cydymffurfio.
- Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grym
- 51
- Pan fydd hysbysiad cydymffurfio mewn grym
- (1) Mae hysbysiad cydymffurfio a roddir i berson (P) mewn grym o'r diwrnod y rhoddir
- yr hysbysiad i P gan y Comisiynydd.
- (2) Mae hysbysiad cydymffurfio yn aros mewn grym oni chaiff — a hyd oni chaiff — ei
- ddirymu.
- (3) Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.